dano, ac i gyd-lawenhau â'r teulu am ei adferiad. Gofynodd i un cymydog, yr hwn oedd yn ffermwr parchus, ond heb fod yn proffesu, a oedd efe wedi bod yn gweddio drosto? Atebwyd ef trwy ddyweyd, "Os nad oeddwn yn gweddïo fy hunan, yr oeddwn yn cadw gwas i weddïo am eich adferiad."
Mae hanes Mr. Humphreys a'i gystudd yn gysylltiedig bron yn gwbl â chymydogaeth Pennal, ac yr ydym wedi derbyn defnyddiau y bennod hon gan Mrs. Humphreys, a'i hen gyfaill Mr. David Rowlands, yr hwn sydd yn flaenor defnyddiol gyda'r Methodistiaid yn Mhennal. Symudodd Mr. Humphreys yno, fel y dywedasom o'r blaen, yn Mehefin y flwyddyn 1858, a chafodd y derbyniad mwyaf croesawgar gan yr eglwys, a pharhaodd yn ngwres ei chariad cyntaf hyd y diwedd. Ond nid hir y bu yn eu plith cyn i'w natur ddechreu llesgau. Ei anhwyldeb oedd y bronchitis, oddiwrth yr hwn y dyoddefodd lawer yn amyneddgar ac ymostyngar. Yr oedd llawer yn barnu hefyd ei fod wedi cael tarawiad ysgafn o'r parlys, ac mai dyna oedd wedi gwaethygu ei gof, a niweidio ei barabl. Nis gallodd deithio ond ychydig wedi symud i Bennal. Bu ar gyhoeddiad trwy Sir Ddinbych, a'r diweddar Barch. Robert Thomas yn gwmni ganddo. Rhoddodd ddau Sabbath, a'r wythnos rhyngddynt, yn Sir Aberteifi, ar gais ei anwyl gyfaill y diweddar Barch. Thomas Edwards, Penllwyn. Y daith olaf y bu ynddi oedd trwy ran isaf Sir Drefaldwyn, gyda'i hen gydymaith, y Parch. E. Price, Llanwyddelen. Yr oedd yn teimlo yn hynod o'r llesg ar hyd y daith hon, a bu raid iddo ddychwelyd cyn ei gorphen. Ni soniodd mwy am fyned oddicartref. Ond wedi methu a myned o amgylch i wneuthur daioni fel cynt, bu am dymor wed'yn yn gallu myned i'r capel i fwynhau cymdeithas ei frodyr. Bu yn hynod o ymdrechgar i ddilyn moddion gras, a phan y byddai yn cael ei orfodi i gadw gartref am dymor, byddai yn dyweyd ei fod yn myned yn bagan heb fod yn y moddion cyhoeddus.. Arferai gychwyn yn brydlon i'r capel, er mwyn cael gorphwys gyda David a Mary Rowlands. Bu y ddau hyn yn hynod o'r caredig iddo. Cofus genyf fy mod yn myned un boreu Sabbath o Gwerniago i Bennal, a Mr. Humphreys yn dyfod gyda mi, ac yn ol ei arfer trodd i mewn atynt; ac ar ei fynediad i mewn, dyma y ddau ar eu traed yn barod