Arglwydd tra galler ei gael.' Esaiah lv. 6, a dyma y penau :
I. Fod dyn wedi colli Duw.
II. Nas gall dyn ddim gwneyd heb Dduw.
III. Fod Duw i'w gael.
IV. Fod yr Arglwydd yn leicio bod yn Dduw i bechadur o ddyn.
Ni pharhaodd ond am o gylch haner awr. Yr oedd efe a phawb eraill yn ymdoddi o flaen y gwirioneddau."
Pan yn bur llesg, aeth i Gyfarfod Misol Machynlleth ; ac yn un o'r cyfarfodydd yr oedd gwŷr ieuaingc oedd yn ymgeiswyr am y weinidogaeth yn cael eu holi, ac un o faterion yr arholiad ydoedd, "Tragwyddol gospedigaeth." Pan oedd yr arholwr yn holi am brofion dros "dragwyddol gospedigaeth," dywedai Mr. Humphreys rywbeth mewn llais gwanaidd ac aneglur; trodd yr arholwr ato, a gofynodd yn dyner, "A oeddych yn dyweyd rhywbeth, Mr. Humphreys?" "Dim ond hyny," ebe yntau, "ni buaswn yn leicio ei mentro, rhag ofn ei bod yn dragwyddol." Achosodd y sylw ddifrifwch mawr trwy yr holl gyfarfod.
Wedi iddo fyned yn rhy lesg i fyned allan o'i dŷ, nid oedd dim yn sirioli mwy ar ei feddwl nag ymweliadau ei gyfeillion. Galwodd y diweddar Barch. Foulk Evans, Machynlleth, gydag ef amryw weithiau; a llawer gwaith y dywedodd Mr. Humphreys wrtho, fod yn dda ganddo gael bod yn yr un byd ag ef, a gwell drachefn ganddo ei fod yn gymydog iddo. Cwynai yr hen dad fod y byd yn ddrwg iawn, ond ni fynai Mr. Humphreys achwyn arno, a chydnabyddai ei fod ef wedi ei gael yn fyd go dda ar y cyfan. Aeth y diweddar Gapten Lewis Griffith, o Bortmadoc, i edrych am dano: yr oedd y ddau wedi bod mewn cysylltiadau â'u gilydd am faith flynyddoedd, un fel cadben, a'r llall fel owner a ship's husband y "Mary Ann." Nid oedd terfyn ar barchedigaeth y Cadben i'w hen feistr: a pha ryfedd? Yr oedd wedi ei gael yn garedig a ffyddlawn yn mhob profedigaeth y bu ynddi; ac nid ychydig oedd y rhai hyny. Y Sabbath yr oedd ef yn Mhennal oedd yr olaf i Mr. Humphreys allu myned i'r capel, ac yr oedd mor wael y tro hwnw fel y bu raid i'r Cadben ei gario o'r gig i'r tŷ; ac yr oedd yn dda ganddo gael gwneyd hyny fel ad-daliad am ei gymwynasau lluosog iddo. O gylch yr un adeg fe aeth ei fab-yn-nghyfraith, Mr.