Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/148

Gwirwyd y dudalen hon

Morgan, i ymweled ag ef, a chymerodd Richard Humphreys Morgan, ei fab hynaf, gydag ef; ac ar ol ymddyddan ychydig, dywedai Mr. Morgan wrtho, "Yr wyf wedi d'od a'ch ŵyr, Richard Humphreys, gyda mi atoch, fel yr oedd Joseph yn myned a'i feibion at Jacob i'w bendithio; ac ychwanegai, "dywedwch air wrtho." Y mae yn bity na fuasai geiriau y fendith genym; yr oedd R. H. Morgan yn rhy ieuangc i'w cofio, ac y mae ei anwyl dad

"A'r tafod ffraethbert hwnw'n fud."

Ond gallem deimlo yn dra sicr fod yr olygfa yn un wir batriarchaidd. Galwodd ei hen gyfaill, y diweddar Barch. T. Edwards, Penllwyn, gydag ef, wrth ddychwelyd o gyfarfod pregethu oedd mewn cymydogaeth gyfagos. Byddai yn dyweyd am Mr. Edwards ei fod yn un o'r rhai tebycaf i Iesu Grist a welodd ef erioed. Gofynai Mr. Humphreys pwy oedd yno gydag ef, ac enwodd Mr. Edwards hwy. Yr oedd yn eu plith un nad oedd yn cael ei ystyried gan y wlad yn un o'r great guns. "Wel," ebe Mr. Humphreys, y mae y gynau bach yn lladd mor amled a'r gynau mawr 'rwy'n coelio."

Dangosodd ei hen gyfeillion lawer o gydymdeimlad âg ef trwy ysgrifenu ato, a byddai derbyn eu llythyrau yn sirioli ei feddwl yn fawr. Bu Mrs. Humphreys mor garedig ag anfon i ni lythyr a dderbyniodd oddiwrth y diweddar Mr. Rees, ac ni a'i dodwn ef i mewn.

91, Everton Terrace, Liverpool,
Mai 8, 1861.

ANWYL GYFAILL,

Pan yn Aberystwyth derbyniais lythyr, yr hwn a ysgrifenwyd ataf yn eich enw chwi, ac ynddo yr ydych yn gofyn am gyhoeddiad genyf oddeutu Cymanfa Machynlleth. Y mae ansicrwydd eto o barth fy nyfodiad i Fachynlleth, fel mai cwbl ofer a fyddai i mi wneyd un math o addewid. Ond os deuaf i'r Gymdeithasfa, gobeithiaf eich gweled yno, a bydd yn dda genyf, os bydd yn bosibl, eich gweled yn eich tŷ eich hunan.

Drwg genyf glywed mai parhau yn llesg a gwanaidd yr ydych o ran eich iechyd onid hyfryd yw, er llygru y dyn oddiallan gan gystuddiau, fod y dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd—cysuron ysprydol yn cryfhau, a'r meddwl trwy hyny yn cael ei weithio i ddarfod â'r byd, ac i ymgymodi â'r bedd; ac yn troi i ddyheu am y