Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

fuchedd dragwyddol. Yr wyf yn clywed eich bod yn profi gradd o'r pethau hyn, a gobeithio yr wyf, os bydd eich cystuddiau yn amlhau, y bydd eich dyddanwch trwy Grist yn amlhau hefyd.

Dywedech, yn Nghymdeithasfa Dolgellau, y byddai arnoch ofn weithiau cael eich rhoddi i fyny i bechu, "pechu byth byth." Mor hyfryd, yr ochr arall, yw meddwl am gael sicrhau y galon yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd ger bron Duw:—"caru byth byth." Y meddwl wedi ei feddyginiaethu oddiwrth ei holl ynfydrwydd, a chwedi ei sefydlu mewn ansawdd bur ac iachusol—yn mwynhau daioni, yn canfod gwirionedd, ac yn synu gogoniant, byth byth. Gobeithio mai hyn fydd eich rhan chwi a minau: a chan fod yn rhaid marw, bydded i'r Duw mawr, yn lle ein gadael i ymladd â'r hyn nas gellir ei ochelyd, weithio ein meddwl yn hyf, ac i weled yn dda yn hytrach fod oddicartref o'r corph, a chartrefu gyda'r Arglwydd.

Yr wyf yn dymuno fy nghofio at Mrs. Humphreys.

Ydwyf, Anwyl Gyfaill,

Eich Brawd a'ch Cydymaith mewn cystudd,

Ac yn Nheyrnas ac Amynedd Iesu Grist,

HENRY REES.

Yr oedd yn parhau i deimlo y dyddordeb mwyaf yn llwyddiant achos yr Arglwydd, er methu a chael myned i blith ei frodyr fel cynt; a chymerai gyfleusdra ar ei ymweliadau i gael gwybod helynt yr eglwysi yn y sir. Bu Cyfarfod Misol yn Nghorris yn adeg ei gystudd, ac yr oedd y brawd David Rowlands wedi myned yno, a mawr oedd disgwyliad Mr. Humphreys am ei weled yn dychwelyd. Gofynai yn aml i Mrs. Humphreys a oedd hi yn meddwl ei fod wedi cychwyn adref; a thrachefn a oedd ef wrth gapel Pantperthog, neu y Penrhyn, ac a oedd hi yn meddwl fod y messenger yn agos; a phan y daeth, llawenychai â llawenydd mawr, nid am fod yno ddim byd neillduol i fod o dan sylw, ond fel y gallai glywed am helynt yr achos yn gyffredinol.

Yn yr adeg yr oedd ef yn glaf y bu farw ei gyfaill mynwesol y diweddar Barch. Robert Williams, Aberdyfi, ac effeithiodd ei farwolaeth yn fawr arno. Cadwyd y newydd galarus am ei farwolaeth oddiwrtho am rai dyddiau, a byddai yntau yn gofyn bob dydd a fyddent yn clywed pa fodd yr oedd efe; ac o'r diwedd dywedodd Mrs. Hum-