phreys wrtho fod Mr. Williams yn y nefoedd er's dyddiau rai, ac atebodd yntau, "Nid oeddwn yn meddwl y buasai Robert yn cael myned adref o'm blaen." Wedi hyn dechreuodd bryderu yn nghylch claddedigaeth ei anwyl frawd, ac ofnai yn fawr i Mrs. Humphreys—gan fod y daith i Bryncrug mor bell, a'i phryder hithau mor fawr am dano—droi yn ol, cyn fod pob peth drosodd. Dywedai wrthi pan oedd yn cychwyn, "Peidiwch, da Mrs. Humphreys, a gwneyd tro cwta ar y fath achlysur;" a'r peth cyntaf a ofynodd wedi iddi ddychwelyd ydoedd, "A roddasoch chwi Robert bach yn nhŷ ei hir gartref? a basiodd pob peth yn anrhydeddus?" Dengys y pryder hwn mor bur ydoedd i'w gyfeillion, a'i fod yn parhau felly hyd y diwedd.
Yr oedd ganddo barch mawr i'r Sabbath bob amser, ac ni byddai byth yn hoffi gweled neb mewn dillad cyffredin ar ddydd yr Arglwydd. Byddai yn rhaid iddo gael ei ddillad goreu am dano bob Sabbath, er nad oedd yn gallu myned allan o'r tŷ; a llawer gwaith y dywedodd Mrs. Humphreys wrtho, wedi ei wneyd ef i fyny, "Dyna chwi, Mr. Humphreys, yn gymwys i gychwyn i Gymanfa." Treuliai lawer o amser i ddarllen y Beibl, a llyfrau da ereill, tra y parhaodd ei nerth; a byddai yn gofyn seibiant ar ol tê y prydnawn i weddïo. Galwai yr adeg hono yn "awr weddi." Tynodd lawer o gysur i'w feddwl yn ei gystudd o'r Philippiaid, pen. ii.; a iv., o'r 4ydd hyd y 10fed o adnodau; ac hefyd o ddiwedd y bennod gyntaf o'r Colossiaid, dechreuai ddarllen yn y 12fed adnod. Byddai yn galw y rhai hyn yn adnodau mawr, a byddai yn rhaid i'w gyfeillion ddarllen yr adnodau hyny iddo pan y galwent i edrych am dano; a chawsant wledd fras a danteithiol gydag ef uwch ben yr adnodau hyn lawer gwaith. Byddai yn dyweyd y geiriau, "Y Duw mawr;" "Y Cyfryngwr mawr;" a'r "Iachawdwriaeth fawr ;" gyda'r fath deimlad nes cynyrchu yspryd addoli yn mhawb fyddai yn y lle.
Amlygodd ddymuniad i gael gweled ei gyfaill David Rowlands, un diwrnod, a dywedai fod arno eisieu gofyn iddo a wnai efe aros yno gyda hwy adeg ymadawiad yr enaid. Gwnaed y cais hwn yn hysbys i D. R., ac aeth yntau yno ar unwaith, a bu yno ddydd a nos am amryw ddyddiau, ac y mae wedi bod mor garedig a rhoddi i ni