yr un drefn ag o'r blaen. Cychwynwyd yn araf am y chwarter milltir cyntaf o'r ffordd, er mwyn y canoedd oeddynt yn dymuno cael dilyn am ychydig. Canodd y cantorion am yr ysbaid hyny, pan ymwahanodd y dyrfa of bob tu y ffordd i ni fyned yn mlaen. Yr oedd y cerbydau a'r meirch erbyn hyn yn lluosog iawn.
Cyrhaeddasom yr Abermaw erbyn 2 o'r gloch, ac yr oedd yr olygfa yma yn gyffelyb i Ddolgellau—yr holl fasnachdai wedi eu cau, pob tŷ—bychan a mawr—hyd yn oed i fyny, fel y clywsom, i gesail uchaf y graig, âg arwyddion galar arno, oddieithr UN tŷ mawr, yr hwn, gan amlygrwydd ei sefyllfa, a dynai sylw cyffredinol.
Cerddwyd y 5 milldir olaf o'r saith, sef o'r Abermaw i'r Dyffryn, a chwanegwyd yn awr gannoedd lawer at y fintai. Cyrhaeddasom Gapel y Dyffryn ychydig cyn 4 o'r gloch—y capel a gynlluniwyd ganddo ef ei hun, er's tros 43 o flynyddoedd, ac ar goed a cheryg pa un y gweithiodd yn galed lawer awr (ei hyfrydwch drwy ei oes oedd trwsio a naddu ceryg).
Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddïo gan y Parch. Rees Jones, Felinheli, a phregethwyd gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala, oddiar Matth. xxiv. 45, 46, a 47. Cyfarchwyd y gynulleidfa ar lan y bedd gan y Parchn. E. Price, Llanwyddelen, a Rees Jones, Felinheli, a gweddïodd y Parch. John Griffith, Dolgellau. Darlunid cymeriad yr ymadawedig yn dra tharawiadol, ond yn gwbl gywir, gan y brodyr a fuont yn cyfarch y gynulleidfa. Er ei fod yn cael gair da y tu hwnt i'r cyffredin ganddynt oll, tystiai pob mynwes fod y gwirionedd ei hun yn cael ei roddi iddo. Nis gallwn roddi—ni cheisiwn—ond crynodeb tra amherffaith o'r hyn a ddywedwyd, ac yr ydwyf wedi cymeryd gormod o le eisoes i ddisgwyl i chwi ei roddi i mewn pe yr anfonaswn hyny. Ond gallwn ddyweyd hyn, fod eneiniad oddiwrth Y Sanctaidd hwnw ar yr holl wasanaeth, a bod pawb yn teimlo, er mai claddedigaeth ydoedd, mai da oedd bod yno. Yr oedd rhywbeth dïeithr yn cerdded drwy y gynulleidfa pan y cyflwynwyd yn y weddi ar ran y rhai oeddynt yn bresenol, ac yn enwedig ei deulu a'i berthynasau, ei ddymuniad gwastadol ef ei hun yn mhob gweddi o'i eiddo, "Bydd yn Dduw i ni!" Ac wedi canu y pennill
Mae'n brawd wedi gorphen ei daith, "&c.,