mae fel yna? am ei fod yn uwch yn ei ffyrdd na'n ffyrdd ni.
Hefyd, y mae yn uwch o herwydd y mae Duw yn ei weithredoedd yn anweledig. Pe buasai bosibl ei weled yn gweithio, ni buasai yn Dduw. Mae dynion lawer gwaith wedi gallu gwneyd pethau pur rhyfedd, ac y mae y naill ddyn yn gallu gwneyd pethau nad ydyw y llall yn eu deall, hyd yn nod wrth eu gwel'd wedi eu gwneyd. Peth go fawr ydyw gweled pont ar Fenai, a gwneyd y Tube a'i godi; ond beth er hyny, yr oedd yno ddynion gweledig lawer iawn wrthi, a phawb yn defnyddio arf i'w waith, a phower nerthol a phwrpasol iawn i'w godi; nid oedd yno ddim dirgelwch, o ran hyny, i ryw un oedd yn perchen tipyn bach o ddeall am bethau o'r natur hyny: ond y mae y Duw mawr yn gweithio ar y naill law, ond nid ydyw i'w weled y mae yn cuddio ei hunan â chwmwl, y mae yn gweithio o hyd ddydd a nos, ond welodd dyn erioed mo hono, ac nis dichon ei weled, y mae "ei ffyrdd ef yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion." Clywsoch son am ambell un yn penderfynu gwneyd perpetual motion, rhywbeth i symud yn barhaus, ond pwy a ai i wneyd peth nad oedd yn bosibl i neb ond Duw? Ond y mae efe wedi gwneyd hyny. Y mae calon pob un yn perpetual motion, y mae yn myn'd bob dydd a nos, ac yn taflu y gwaed dri ugain neu ddeg a thriugain o weithiau bob mynyd, a hyny er pan wyt yn y byd yma,—dyna i ti berpetual motion! Y mae y greadigaeth, y môr a'r tir, a'r holl gyfundrefn, a holl wahanol systems yr universe yn berpetual motions bob Mae yma berpetual motions beth afrifed wedi eu gwneyd gan Dduw. Pa'm y mae wedi gwneyd hyny, a ninau yn methu? nid ydyw ffyrdd dyn cyfuwch a hyny —"uwch yw ffyrdd Duw na'n ffyrdd ni."
Hefyd, y mae y Duw byw yn rhoddi bywyd yn ei ffordd. Medr Ef roddi bywyd—nid yn unig rhoddi motion yn y greadigaeth, ond y mae yn medru rhoddi bywyd hefyd yn y creadur, ïe aneirif luaws o greaduriaid. A fedr dyn wneyd hyny? Na fedr, ac ni fedr gynyg—ni ŵyr yn mha le i ddechreu. A dyweyd y gwir am holl ddoethion y ddaear, ni wyddant beth yw bywyd; ond am Dduw, "oni wel yr hwn a luniodd y llygad:" pe buasai Ef heb weled, pa fodd y gallasai lunio llygad? Ni ŵyr dyn pa beth ydyw bywyd yn iawn; y mae yn anhawdd gwneyd un darluniad