step, ond y mae y Duwdod mawr yn gweled y cyfan ar unwaith, yr effaith a'i achos, un meddwl Duw ydyw pob peth sydd mewn bod. Hefyd, nid ydyw ein meddyliau ni ond dychymygion. Y mae ein meddyliau yn feddyliau ofer, ac yn dra dychymygol. Y mae ffordd y meddwl yn ymddangos yn uniawn yn ngolwg dyn, ond pan â dipyn yn mlaen, ymddengys yn ffol iawn; ond gwirionedd ydyw meddwl Duw am bobpeth. Fel y mae Duw yn meddwl am bobpeth, felly y mae pob peth. Y mae pob peth yn ymddangos iddo Ef fel y mae yn gymwys—nid ydyw nac uwch nac îs, na gwell na gwaeth, yn ol nac yn mlaen, na'r hyn mae Ef yn ei feddwl am dano. Nid ydyw yn edrych yn ogwyddedig ar ddim, ac nid oes tuedd yn y meddwl Dwyfol ond at yr hyn sydd yn ei le; ond nid felly y mae gyda ni. Ein doethineb ni ydyw amcanu gwybod beth ydyw meddwl Duw am y pethau y mae wedi eu dadguddio i ni. Y mae yn afreidiol i ddyn wybod pob peth y mae y Duw mawr yn ei wybod. Ni chanlynit mohono am foment yn ei wybodaeth, byddai swm ei feddyliau wedi dy ddryllio, ac ni wnait ddim a holl—wybodaeth Duw hyd yn nod pe byddet wedi dy amgylchu âg anfarwoldeb; ond y mae wedi rhoddi i ni ei wybodaeth mor bell ag y mae arnom ei heisieu yn y fuchedd hon; cuddiodd y dirgeledigaethau oddiwrthym, a rhoddodd bethau amlwg i ni ac i'n plant. Y mae ganddo Ef ddeall clir iawn am ei deyrnas fawr a'i lywodraeth. Byddwn ni yn petruso yn ddirfawr, ac yn edrych yn aml ar y cwbl bron a myned yn bendramwnwgl, ond nid ydyw Duw felly, y mae ganddo Ef feistrolaeth berffaith ar ei holl waith i'r hon y mae y greadigaeth yn dalaeth o honi. Ni wyddom ni beth ydyw nifer talaethau ei deyrnas fawr, ond y mae Duw yn ei chynwys ynddo ei hunan. Mae gan deyrnasoedd y ddaear eu brehinoedd, a'u deiliaid i'w hamddiffyn a'u cadw, ond am y Duw anfeidrol y mae Efe yn cynal ei ymerodraeth i gyd, ac nid ydyw yn ymddibynol ar neb. Y mae pawb yn derbyn oddiwrtho Ef, ond nid ydyw Duw yn derbyn oddiwrth neb, ond o hono ei hunan. Yn holl drefn fawr iachawdwriaeth dyn y mae rhyw feddwl uchel, uwch na'i holl feddyliau gan Dduw. Y mae hon yr uchel iawn, ac yn deilwng o hono Ef ei hun. Nid oedd ar Paul ddim cywilydd o hon, "doethineb Duw mewn dirgelwch" ydyw. Y mae cant a mil o feddyliau wedi bod trwy feddwl
Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/163
Gwirwyd y dudalen hon