y foment yma y fath beth i ti—y fath nefoedd yn dy fynwes di—ydyw cael calon i'w garu Ef ei hunan. Ychydig a wyddom ni am Dduw ac am ei gariad; ond gŵyr Ef y cyfan. Gwel Ef werth y nefoedd fechan sydd o gariad Duw o fewn y Cristion; a gŵyr y bydd y Cristion hwnw o fewn y nef, ac o fewn y nef am byth, ac y câr ef fwy fwy i dragwyddoldeb. Y mae Duw yn gweled yr hyn sydd ynddo ei hunan yn dda yn ei natur yn berffaith glir a thrwyadl, ac yn ei ganlyniadau i ddyn ac angel yn berffaith glir am dragwyddoldeb. Y mae arnaf eisieu i chwi feddwl yn fawr am ei wybodaeth. Y mae Efe yn gyfoethog o drugaredd, ac yn oludog o ddaioni tuag at feibion dynion.
Mae ganddo feddyliau uwch na'n meddyliau ni, oblegyd y mae ganddo feddyliau uchel iawn am y Cyfryngwr. A oes eisieu i mi feddwl mor uchel? Nac oes, ond y mae eisieu i ti, fy nghyd—ddyn, dynu dipyn ar ei ol. Y mae Efe yn gwybod am undeb y ddwy natur yn mherson y Cyfryngwr mawr, ac fel yr oedd y natur Ddwyfol yn droppio rhyw gynwys anfeidrol o ddyoddefiadau y natur ddynol yn y fath fodd nas gwyddom ni ddim am danynt. Mae pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear gan Dduw ; paham ynte yr oedd eisieu aberth, offrwm, ac iawn? Yr oedd efe yn gwybod fod pechod mor ddrwg nad allasai ei faddeu heb iawn, ac yn gwel'd y canlyniadau a ddaethai i'r llywodraeth ddwyfol iddo faddeu heb iawn, a'r rhai hyny y fath na wnaethai byth heb hyny.
Maent yn feddyliau wedi eu dyweyd yn blaen iawn wrthyt yn y gwirionedd. Tyred i gollege yr Iesu; medr ef ddysgu i ti ostyngeiddrwydd fel y dysgodd y Tad ei Fab. Y mae meddyliau Duw yn uwch oblegyd y mae ganddo rhyw ddeddf fawr yn ngolwg ei feddwl tragwyddol, at yr hon trwy bobpeth y mae yn cyrchu—rhyw ben draw mawr a gogoneddus iawn. Beth sydd yn ngolwg y geiriau hyny, "Yr hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tuhwnt i ddim yr ydym ni yn ei feddwl," dyna ergyd go bell, y mae dyn yn meddwl, ac yn dychymygu, ac yn cynllunio llawer iawn, ond y mae y step nesaf yn uwch o lawer"neu yn eu dymuno." Medr dyn ddymuno daioni anamgyffredadwy, a daioni diderfyn; y mae rhywbeth yn nymuniadau naturiol dyn, nad oes dim ond Duwdod a'u lleinw, ond medr Duw wneuthur y tuhwnt i'r hyn yr ydym ni yn eu meddwl neu yn eu dymuno. Nid oes gan