Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/169

Gwirwyd y dudalen hon

wir dduwiol. Yn hyn y mae gwir ddoethineb yn gynwysedig; dewis y da, a gwrthod y drwg.

Gelwir crefydd yn "ddoethineb sydd oddi uchod" mewn cymhariaeth i ddoethineb y byd hwn. Mae plant y byd hwn yn gall yn eu cenhedlaeth, sef yn gall yn eu pethau hwy; ond y mae rhyw dwyll yn eu doethineb er hyny. Yn yr olwg ar bethau byd arall, nid ydyw ond gwâg dwyll." Oddi uchod y mae y ddoethineb nefol yn dyfod, ac yno y mae ei nôd.

Yr oeddwn yn meddwl sylwi ar y ddoethineb sydd oddi uchod yn yr amrywiol bethau a briodolir iddi yn y testun. Edrychwch arni yma, a chwi a'i gwelwch yn dra hardd a phrydferth. Nid ysgerbwd mo honi; nid tebyg i esgyrn sychion Ezeciel ydyw ; ond y mae wedi ei gwisgo â gïau, a chig, a chroen; a bywyd yn ei hysgogi; a rhyfedd genyf fi os, wedi edrych arni, na syrthiwch mewn cariad â hi.

I. PUR YDYW. Nid hardd oddi allan, ac ystŵff gwaeth oddi fewn; na: "pur ydyw." Mae yn aur pur drwyddi. "Puredd a gaed ynof ger ei fron ef," meddai Daniel. Gwerthfawr bob amser yw cael rhywbeth yn bur a chywir. Mae yn wir fod peth drygioni mewn pobl dduwiol. "Nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni ac ni phecha." Mae yma ryw ddeddf arall yn yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl; ac nid y peth y mae y duwiol yn ei ewyllysio, y mae yn ei wneuthur bob amser mae yn llithro mewn llawer o bethau. Ond nid oes drwg mewn duwioldeb serch fod drwg mewn duwiolion. Purdeb ydyw hi; ac ni bydd wedi gorphen ei gwaith nes cael ei pherchen yn gwbl yr un fath â hi ei hun. Nid yw gras yn cymysgu a llygredd.

II. HEDDYCHLAWN. Mae y dymher hon yn werthfawr iawn. Mae yn y byd yma lawer o groes—dynu; fel cŵn yn ymdynu am yr un asgwrn, a dim modd ond i un ei gael. Y neb sydd o duedd ymrafaelgar, rhaid iddo fod a'i gleddyf a'i fwa yn ei law o hyd: ceiff ddigon o waith i amddiffyn ei hun rhag ymosodiad o ryw gwr yn barhaus. pheth pur ddiennill yw ymrafaelio. Clywais fod y Dutchmen yn fynych yn rhoi yn arwydd (sign) ar eu tafarndai, lun buwch, a Sais yn tynu yn un corn iddi, a Frenchman yn y corn arall, a Dutchman yn ei godro. Nid yw pobl gwerylgar yn cael dim ond y cyrn i'w dwylaw, a hwyrach y cânt