Duw hwn a ddechreuodd adeiladu teyrnas, ac ni allodd ei dwyn yn mlaen. Mae etholedigaeth a chyfamod Duw yn sicrhau nad â marwolaeth Iesu yn ofer. Anfonir yr efengyl adref gan Yspryd Duw i galonau miloedd dirifedi, nes eu gwneyd yn ufudd iddo. Mae y deyrnas yn sicr o fyned yn mlaen; ond dyma y pwnc, a ddeui di i mewn iddi. Mae ei phyrth yn agored nos a dydd. A ddeui di i mewn, bechadur? Mae yn beryglus iawn aros allan. Gwylia rhag i angeu dy ddal o'r tu allan i'w muriau.
Yn awr dyma destun gorfoledd, a'r gorfoledd mwyaf i'r ddaear;—mae yr Arglwydd yn teyrnasu yn ei ras. Pe na byddai y deyrnas hon, ni byddai yn werth i ni fod ar y ddaear; ni byddai y ddaear ond agorfa i uffern. Ond yn awr y mae gobaith i bechadur, a galwad arno i ddyfod i mewn a bod yn ddedwydd. Mae llawer wedi dyfod; ond y mae eto ddigon o le. Mae Duw yn barod i faddeu, ac nid oes cofio beiau yn nheyrnas gras. Tuedder ni oll i ddyfod i mewn iddi. AMEN.[1]
- ↑ Gwel y "Pregethwr," Ebrill, 1841.