wedi prynu tyddyn a bod arno eisieu myn'd i'w weled. Pe buasai y cyfryw dyddyn ar werth y dydd hwnw, buasai ryw esgus iddo; ond buasai y wledd yn fwy o werth iddo pe hyny fuasai yn bod; ond yr oedd y dyn wedi ei weled, oblegyd nid oedd wedi ei brynu, mae'n debyg, heb roddi rhyw olwg arno; ond y gwir oedd fod y tyddyn yn gymaint yn ei olwg fel nad allai ddyfod—esgus gwael iawn.
Yr oedd y llall wedi prynu pum' iau o ychain, a rhaid myned i'w profi, meddai y dyn. Pe buasai y ffair arnynt y dydd hwnw, buasai ryw fath o esgus iddo; ond balch o'i fargen, a diystyr o'r wledd, oedd efe. A'r trydydd yn dyweyd ei fod wedi priodi gwraig, ac am hyny nas gallasai ef ddyfod. Nid oedd hwn yr un olwg a llawer. Y mae llawer yn dewis peidio dyfod at grefydd nes priodi, i gael maes dipyn helaethach; ond yr oedd bryd hwn ar ei gydmares, a'i esgus yn wael iawn: onid allasant ddyfod eu dau? Yr oeddynt yn bur gynes ac heb dynu yn groes ond ychydig iawn eto; paham na allasai y wraig ddyfod? Y maent yn dyweyd fod mwy o'r merched yn dduwiol nag o'r gwŷr—esgus gwael iawn. Ond a feddyliech chwi na byddai gŵr y tŷ wedi digio? Yr oedd wedi teimlo, gan y rhoddodd orchymyn i'r gwas i fyned i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a gwahodd pawb—y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion; ac yna y mae y gwas yn dyfod yn ol, ac yn dywedyd," Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynaist; ac eto y mae lle." Y mae y tŷ yn fawr, a'r wledd yn helaeth; dos allan, bellach i'r prif—ffyrdd a'r caeau at y cenhedloedd, gwahodd hwy i ddyfod i mewn fel y llanwer fy nhŷ. Wel, bellach, nid ä gwaed y groes yn ofer.
"Ni chollwyd gwaed y groes,
Erioed am ddim i'r llawr.'
Yr oedd gŵr y tŷ wedi digio. Y mae Duw yn digio wrth bob drwg—ac yn benaf wrth y drwg sydd yn gwrthod y daioni sydd yn y Cyfryngwr—esgeuluso bod yn gadwedig. Y mae yma le i bechadur droi ei wyneb; "eto y mae lle.'
Yn un peth, y mae lle yn ngalwedigaeth yr efengyl i nibob yr un. "Arnoch chwi wŷr yr wyf fi yn galw, ac at feibion dynion y mae fy llais." Y mae galwedigaeth yr efengyl at