Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/194

Gwirwyd y dudalen hon

calon llawer hen fam yn Israel ydyw, gweled ei holl gymydogion yn dduwiol." "Y mae y briodasferch yn dywedyd, tyred." Nis gwn a roddwn ddim am grefydd neb na byddai rhywbeth ynddi yn gwahodd.

Hefyd y mae lle o fewn muriau eglwys Dduw. Y mae meddu crefydd yn beth mawr iawn, a Duw yn unig a ŵyr pa mor fawr. Y mae ei phroffesu hi yn beth go fawr. Nis gwn pa fodd y gallwch ei meddu heb ei phroffesu: y mae eisieu bod yn ddysgybl i'r Iesu—nid yn ddirgel rhag ofn yr Iuddewon. Pwy bynag fyddo cywilydd ganddo fi am geiriau; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad." Ymofyn am aelodaeth eglwysig. Mynydd Duw sydd fynydd cribog fel mynydd Basan, ac yn gofyn am ddigon o ymdrech i'w ddringo. Arafaidd iawn y daethum i at grefydd, ond teimlwn fod rhyw blwc rhyngof a hi nes daethum at y broffes. Daethum i deimlo bob yn dipyn nad oedd arnaf eisieu Crist heb ei bobl. Dyma borth y nefoedd; trwy hwn y mae myned. i'r eglwys orfoleddus fry.

Hefyd y mae digon o le i chwi yn y nefoedd. Y mae yr Arglwydd Iesu Grist yn dyweyd fod yn nhŷ ei Dad "lawer o drigfanau," a'i fod Ef yn myned i barotoi lle i'w bobl. Ac wrth feddwl am yr Arglwydd Iesu, teimlwn y gwna Efe bob peth yn iawn, o herwydd nid oedd Ef, ac nid ydyw, yn arfer gwneyd dim heb ei fod yn iawn. A sicr ydyw y bydd y lle i'r pwrpas uchaf: nis gwn a oes lle yn uffern i chwi; beth bynag ni bydd yno welcome home gan undyn, gan nad oes yno gariad at neb. Bydd holl ddihiriaid y byd wedi myned yno. Nid yw y lle wedi ei ddarparu i ddynion. Ond bydd welcome home i ti yn y nefoedd. Bydd Abraham, Isaac, a Jacob yno, ac y maent wedi llawenhau filoedd o weithiau wrth weled rhai yn dyfod adref. Bydd digon o le a chroesaw i ti yn y nefoedd. Nid dim byd ydyw myned i uffern a cholli y nefoedd hefyd. Y mae uffern yn ofnadwy o le i feddwl i un-dyn fyned yno.

Ni fedr y diafol fyned a thi i uffern heb dy gonsent ti dy hun; ac nid ydyw Duw chwaith am fyned a thi i'r nefoedd yn groes i'th ddymuniad. Yr oedd y rhai hyn wedi ymesgusodi; a gŵr y tŷ o'r herwydd wedi digio, teimlodd ac ni ddaeth ato ei hunan—y mae wedi digio er ys deunaw cant o flynyddoedd wrth