Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/196

Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH VI.

ETIFEDDION SYLWEDD.

"I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.—DIAR. viii. 21.

SYLWEDD i greadur rhesymol yw yr hyn a'i gwna yn ddedwydd, a gyflawna ei holl raid, ac a leinw ei ddymuniadau. Gall gwellt y maes wneyd yr anifail mor ddedwydd ag y mae yn alluadwy iddo fod, oblegyd nas gall ddymuno ychwaneg; ond ni ddichon cynyrch y ddaear wneuthur dyn felly, am y gall ddymuno ychwaneg. Lleferydd doethineb am dani ei hun yw y geiriau hyn, wedi ei phersonoli gan y gŵr doeth fel pendefiges; ac at ddynion o bob oedran a sefyllfa y mae ei lleferydd. Yn yr adnod flaenorol, dywedir, "Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn." Ffordd cyfiawnder yn unig sy ffordd ddyogel ac anrhydeddus, ac y mae gwir ddoethineb yn arwain ar hyd-ddi. "Ar hyd canol llwybrau barn." Nid yw doethineb yn arwain i'r eithafion hyd yn nod ar ffordd cyfiawnder " allwybrau barn;" ond y mae yn gynwysedig yn ngochel yr eithafion ar bob llaw, a dewis y canol, gan gadw y naill eithaf mor bell oddiwrthi a'r llall. Mae doniau a thalentau yn fynych yn rhedeg i'r eithafion; ond ni chanlyn doethineb hwynt, oblegyd gwell ganddi y "canol."

Ond "rhagoriaeth gwybodaeth yw fod doethineb yn yn rhoddi bywyd i'w pherchenog," pâr i'r rhai a'i carant etifeddu sylwedd.

1. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, yn un peth, oblegyd fod cariad at ddoethineb yn wir rinwedd yn y meddwl. Nid yw cariad at ddedwyddwch—at fwynhad—yn rhinwedd moesol, oblegyd y mae hwnw yn y drwg a'r da, yn y cyfiawn a'r drygionus, yn gyffelyb: iaith calon holl ddynolryw yw, Pwy a ddengys i ni y daioni hwn? Ond y mae cariad at ddoethineb yn dyogelu i ddynion fwyniant a dedwyddwch. Caru doethineb yw caru Duw—