phrey Griffith, Taltreuddyn Fawr, plwyf Llanfair—taid Mr. J. H. Jones, Penyrallt, a Dr. Griffith, Taltreuddyn Fawr. Enw ei chwaer oedd Ann Griffith: priododd Richard Roberts, Bryncoch, yr hwn oedd yn frawd i Henry Roberts, Uwchlaw'r-coed.
Bu i Humphrey Richard a Jennet Griffith bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, Richard a Griffith—Mary a Jane. Aeth Griffith i Lundain pan yn ieuanc, ac ymsefydlodd yno; ac ymunodd a phlaid o'r Undodiaid, a elwir y Free Thinkers, yr hyn a fu yn dristwch nid bychan i'w frawd Richard. Priododd, a bu iddo chwech o blant. Y mae rhai o honynt yn Llundain yn awr, a'r lleill wedi ymwasgaru. Priododd Mary gadben llong o Ddolgellau, a bu iddynt amryw blant; ond buont oll feirw yn ddibriod. Priododd Jane hefyd Richard Thomas o Benymorfa, Sir Gaernarfon, a bu iddynt saith o blant; ac y mae llawer o wyrion ac wyresau yn aros. Gellir dyweyd am y briodas hon iddi fod yn ddechreuad cenedlaeth fawr.
Ganwyd Richard Humphreys yn Mehefin, y flwyddyn 1790, yn Ngwernycanyddion, hen gartref ei dad a'i daid. Symudodd ei dad pan oedd efe yn bur ieuangc o Wernycanyddion i'r Faeldref—nid i'r Faeldref bresenol, ond i'r hen ffermdy, o'r hwn nid oes yn aros ond ychydig o'r muriau i ddangos y fan lle y safai. Nid oedd y symudiad hwn ond bychan, gan fod y ddau, Gwernycanyddion a'r Faeldref, yn yr un plwyf, ac nid oes ond o gylch milldir rhyngddynt. Saif y Faeldref ar lanerch brydferth o gylch hanner y ffordd rhwng y Dyffryn a phentref bychan a swynol Llanbedr. I'r gorllewin iddo mae y Cardigan Bay yn gorwedd yn llon'd ei wely, yr hwn a ymddengys weithiau fel pe byddai wedi digio wrth yr holl fyd: "rhua a therfysga ei ddyfroedd, a chryna y mynyddoedd gan ei ymchwydd ef;" bryd arall ymddengys mor dawel, llyfn, a llonydd, fel pe byddai yn edifarhau am ei wylltineb diangenrhaid y dydd o'r blaen. Ar ddystyll, bydd Sarn Badrig i'w gweled, yn ymddolenu am filldiroedd i'r môr, a'r tonau yn ymddryllio arni. Tybia rhai fod y cadarn-fur hwn yn rhan o'r môr—glawdd oedd yn diogelu Cantref y Gwaelod—sef yr un dref ar bymtheg hyny a foddwyd, fel y dywedir, yn y chweched canrif, a hyny trwy feddwdod dyhiryn a osodasid i wylied y dyfrddorau. Y mae y sarn hon, pa un bynag ai natur ai celfyddyd fu yn ei gosod