mae Duw uwchlaw gofid. Y mae trueni iddo ef, ac iddo ef yn unig, yn anmhosibl, oblegyd hyny nis gallwn fod yn druenus yn nhrueni prif wrthddrych ein serchiadau, os byddant wedi eu sefydlu arno ef, oblegyd dedwydd byth a fydd efe. I Dduw hefyd y perthyn anfarwoldeb. "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd." Nis gall yr hwn sydd yn caru Duw fel ei Dad fod yn amddifad, na'r hwn sydd yn caru Crist fel ei Briod fod yn weddw. Gwraig weddw unwaith yn galaru am ei phriod, ac yn ocheneidio yn drom ei chalon gyda'i phlentyn amddifad, wrth yr hwn y soniasai lawer am ei Duw, a ofynwyd iddi gan ei phlentyn, "Paham yr ydych mor bruddaidd, fy mam?" "Dy dad a fu farw, fy mhlentyn." Gofynai yntau, "A ydyw Duw hefyd wedi marw, fy mam?" "Nac ydyw, fy mhlentyn," meddai, a dygai gofyniad y plentyn i'w chof fod prif wrthddrych ei serchiadau yn aros wedi i'r gŵr drengu i ofalu am dani. Y mae Duw yn werth i'w garu â'r holl galon, ac yn cynal ei garu â'r holl galon, a nefoedd ar y ddaear yw rhoddi y lle mwyaf iddo yn y serch. Nid oes dim ond efe na byddwn ni yn waeth o roddi y lle mwyaf iddo yn ein serchiadau; ond etifeddu sylwedd ydyw ei garu ef.
"A mi a lanwaf eu trysorau." Wrth drysorau yma yr ydwyf yn golygu lle y trysor. Er mai creadur bychan yw dyn, y mae yn cynwys llawer. Er nad yw ei anghenion amserol ond bychain, y mae ei ddymuniadau yn fawrion ac yn eang. Y mae yn hawdd digoni natur; ond nis gellir boddloni chwant. Ni ddywed y cybydd byth "digon," am nas gall aur ac arian lenwi ei ddymuniadau. Y mae gwŷr y pleser yn gwaeddi "Melus, moes eto." Tybia y meddwon y tynant yr Iorddonen i'w safn pe byddai ddiod gref. Pe byddai "Asia a'r byd oll" yn addoli y balch, gallai ddymuno ychwaneg o anrhydedd. Pa beth, ai nid oes gan y cybydd ddigon o aur ac arian i brynu ei angenrheidiau? Paham nad ymfoddlonai ar hyny? Yr ateb yw, y mae yn gallu dymuno ychwaneg. Ymddengys nas gellir llanw y lle a gadwodd y Duwdod iddo ei hunan yn nghalon ei greadur â dim ar a grëodd Duw—nid oes a'i cyflawna ond holl gyflawnder Duw. Mae cyfoethogion y byd yn nghanol eu cyfoeth yn aml yn annedwydd, am eu bod yn gallu dymuno yr hyn nid yw ganddynt; ond y neb a gafodd Dduw a gafodd ddigon, am