PREGETH VII.
Y DDWY DEYRNAS.
"Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symmudodd i deyrnas ei anwyl Fab."—COLOSSIAID i. 13.
AR ryw olwg nid oes dim ond un deyrnas yn bod, a Duw yn fendigedig ac unig benaeth y deyrnas hono. Oblegyd y mae Ef yn llywodraethu ar bob peth a greodd. Er lluosoced y bydoedd ac amled rhifedi y ser a'r planedau, nid oes yr un o honynt wedi eu gwneyd gan neb ond Duw. Y mae y cwbl a wnaed gan Dduw dan lywodraeth Duw. Nid oes na dyn, nac anifail, nac angel, na chythraul, na chymaint ag un llwchyn o'r greadigaeth nad ydyw dan ddeddf i Dduw. Ond y mae y testun hwn yn amlwg yn golygu rhyw ddwy deyrnas, sef meddiant y tywyllwch a theyrnas anwyl Fab Duw. Y mae y ddwy deyrnas yna yn golygu rhywbeth gwahanol i lywodraeth fawr gyffredinol Duw. Yn gymaint a bod Duw yn anfeidrol ddoeth a da, galluog ac uniawn, yn gwneyd fel y mae yn gweled yn dda yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn mhlith llu y nef fel trigolion y ddaear, y mae yn beth pur rhyfedd fod llywodraeth na dim meddiant gan neb ond Efe. Pa fodd y goddefodd i'r diafol wrthryfela a denu dynion i wrthryfela? Pa fodd y cymerodd llywodraeth pechod le, neu pa fodd y goddefodd Duw i'r llywodraeth yma fod yn ei deyrnas, sydd gwestiynau pur anhawdd ei hateb; y maent yn gorwedd yn ddwfn yn mynwes y Duw mawr. Ond y mae yn bur amlwg fod meddiant y tywyllwch yn bod, a bod pechod wedi cymeryd lle: ond y mae hefyd yn bod deyrnas anwyl Fab Duw. Nid ydyw y deyrnas yma ddim yn groes i lywodraeth gyffredinol Duw, ond yn berffaith wrthwynebol i feddiant y tywyllwch. Y mae meddiant y tywyllwch yn cynwys plaid wrthwynebol i lywodraeth gyfiawn ac uniawn y Jehofahac y mae teyrnas anwyl Fab Duw yn cynwys gwrthdarawiad nerthol i holl amcanion y diafol, teyrnas yr