Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/203

Gwirwyd y dudalen hon

hwn yma a elwir yn " feddiant y tywyllwch." Y mae yr Arglwydd Iesu yn cydnabod fod ganddo deyrnas, pan y cyfeiria, pe buasai diafol yn bwrw allan ddiafol, neu gythraul yn bwrw allan gythreuliaid, nad allasai ei deyrnas ddim sefyll i fyny. Y mae ganddo ef ryw le mawr yn y byd; gelwir ef "Tywysog llywodraeth yr awyr;" ac y mae llawer, fel y mae gwaethaf y drefn, yn meddiant y tywyllwch. Sylwn

I. MEDDIANT Y TYWYLLWCH.

II. Y WAREDIGAETH, neu y symudiad o'r meddiant hwnw.

III. RHAI SYLWADAU AR DEYRNAS ANWYL FAB Duw, fel y mae hi wedi ei hamcanu i fod yn atalfa ac yn feddyginiaeth i'r rhwyg mawr o wrthryfel angylion a dynion yn erbyn Duw.

I. MEDDIANT Y TYWYLLWCH. Nid ydyw yn golygu fod ganddo wir hawl, yr ydym yn deall. Y mae yn golygu rhyw beth, ond nid fod ganddo hawl deg a chyfiawn yn y meddiant. Y mae diafol yn ei wrthryfel wedi fforffetio hawl ac ewyllys da Duw; ac o ran hawl wirioneddol i bethau, nid oes ganddo ddim. Nid ydyw yn greawdwr i neb; o ran hyny, gallwch fod yn bur ddiofal nad oes arnoch ddim rhwymau gwasanaeth i'r diafol. Ni chreodd neb o honoch, temtiodd chwi bɔb un, a chyd—ffurfiodd llawer mae'n debyg ag ef mewn temtasiynau pur ofnadwy ond ni chynaliodd erioed mo honoch am funyd. Nid wyt wedi derbyn dim gwirioneddol dda oddiar ei law erioed. Y mae llawer wedi byw a marw, yr wyf yn ofni, yn ei wasanaeth, ond ni chawn fod neb yn derbyn y cyflog yn gysurus. Ond pa beth ydyw y meddiant? Yn

1. Y mae ganddo feddiant wedi ei enill ar ddynolryw. Enillodd ryw fattle ar blant dynion—clywsoch am dani —ar ein rhieni cyntaf, ac yr ydym ninau yn canlyn wedi myn'd i'r un ochr ag ef; nid ydym yr un fath ag ef yn hollol, ond y mae wedi ein henill ni drosodd. Nid ydyw y right of conquest bob amser yn deg. Nid ydyw yn degwch i'r naill deyrnas oresgyn y deyrnas arall am fod y naill yn gryfach na'r llall, neu am fod arfau gwrthryfel gan un ac heb ddim gan y llall. Pe buasai Napoleon yn darostwng Ynys Prydain, ni fuasai yn fuddugoliaeth deg ac nid oedd y buddugoliaethau a enillodd yn rhoddi lle teg iddo deyrnasu ar lawer o deyrnasoedd Ewrop:—