ar ei gilydd, wedi bod yn ddinystr i ddegau o longau godidog, a llawer morwr glew a gyfarfu â dyfrllyd fedd arni. Clywsom y diweddar Mr. Morgan yn dyweyd na byddai byth yn cynefino ag edrych ar y môr; a pha ryfedd? onid yw y golygfeydd yn newid mor fynych, fel ag y mae newydd-deb yn cael ei gadw arno yn barhaus?
Nid oedd i enw y Faeldref na swyn nac enwogrwydd cyn y dyddiau hyny, fel ag i roddi arno unrhyw uwchafiaeth ar ffermdai eraill y gymydogaeth. Ond y mae llawer lle digon di-nod ynddo ei hun wedi dyfod trwy ei berthynas a phersonau neu ddygwyddiadau yn fyth gofiadwy. Bydd Waterloo mewn cof tra y bydd dŵr yn rhedeg, a Phant-y-celyn yn mhell ar ol hyny—y cyntaf ar gyfrif y ffrydiau o waed dynol a gollwyd ar y llanerch; a'r diweddaf ar gyfrif yr "hymnau a'r odlau ysbrydol" a anadlwyd allan gan ysprydoledig awen "Per Ganiedydd Cymru.' Felly hefyd y mae y Faeldref wedi dyfod yn household word trwy Gymru benbaladr, fel lle a fu yn drigfan am flynyddoedd lawer i ddau o arwyr "Rhyfeloedd y Groes," sef y Parchedigion Richard Humphreys ac Edward Morgan. Bychan feddyliodd ei dad, Humphrey Richard, pan yn symud o Wernycanyddion, y byddai i'r bachgen Richard gyrhaedd y fath enwogrwydd fel ag i anfarwoli enw ei gartref newydd.
Nis gwyddom beth oedd oedran Richard pan y gwnaeth ei dad y symudiad hwn. Y mae yn rhaid nad oedd ond ieuange, oblegid bu farw ei fam yn Ngwernycanyddion pan nad oedd efe ond saith mlwydd oed. Rhaid fod colli ei fam wedi bod yn golled fawr iddo. Y mae yn haws i blentyn yn yr oedran tyner hwn fforddio colli pob peth na cholli mam; yn enwedig os bydd yn fam synwyrol, ofalus, a chrefyddol; ac yr oedd ei fam ef yn meddu y rhagoriaethau hyn. Cawsom un awgrymiad ar ei ol sydd yn dangos fod ei fam yn wraig bwyllog iawn. Dywedai wrth fyned trwy un o gaeau Gwernycanyddion gyda Mr. Harri Roberts, Uwchlaw'r-coed-yr hwn oedd yn un o hen flaenoriaid parchus y Dyffryn, ac yn ŵr a berchid yn fawr gan Mr. Humphreys,—"Yr wyf yn cofio fy hun pan yn fachgen bychan yn dyweyd wrth rhywun y gallaswn fod wedi palu y cae hwn drosodd tra y bu fy mam yn bygwth fy chwipio." "Bum yn meddwl gannoedd o weithiau," ebe fy hysbysydd—Mr. Rees Roberts, Harlech, yr hwn