farw, y mae y Duw mawr yn ei anfon i uffern, ac y mae yn dda i ni hyny. Y mae y Salmydd yn cydnabod nad yw dyn yn cydnabod daioni Duw: pity garw yw hyny. Mae un digymwynas yn bur gâs; y mae peidio cydnabod cymwynas, ar dir uniondeb, yn gam. Nid ellir parchu Duw heb ystyried ei ddaioni. Gellir dychrynu rhagddo am ei fod ef yn Dduw Hollalluog; ond nid ei barchu ond gyda'r syniad o ddaioni. Gellir cydnabod gŵr boneddig am ei fod yn ŵr boneddig ag y gellwch gael rhywbeth oddiar ei law; ond os gwir barch, am ei ddaioni y mae. Y mae daioni yn demandio parch. Clywais am un yn gorchymyn i un arall ddyweyd celwydd; ryw ŵr boneddig yn gofyn i rywun a fedrai efe ddyweyd celwydd? Medra i, meddai hwnw, ac fe ddywedodd gelwydd; ond am a wn i, nad yw efe ddim mwy ei barch er hyny. Felly nid oes modd parchu y Duw mawr heb ystyriaeth glir o hono, fel y gosodir ef allan yn y Beibl, yn Dduw da. Ond yr hyn y sylwaf fi arno yn bresenol a fydd mewn perthynas ddaioni yr Arglwydd; a bod hwnw yn destyn priodol i foliant pob dyn.
Y mae daioni Duw yn mhob man yn y byd yma. Fel Creawdwr, Duw da ydyw. Y mae efe yn cyrchu at les ei greaduriaid yn eu ffurfiad. Y ddaear, y byd yma, y maent hwy yn suitio eu gilydd yn dda. Pe buasem ni mewn rhai o'r bydoedd eraill, ni wn pa fodd y buasem ni: pe buasem ni yn y lleuad, hono yw y byd nesaf atom, meddant hwy, ni wn i ddim pa fodd y buasai hi arnom ni; ond y mae hon yn addas iawn i ni, yn awyr i anadlu, ac yn bob peth cymhwys i ni. Beth pe buasai efe yn un câs, fel ambell i dyrant fu yn y byd yma, yn ein gwasgu a'n gorthrymu nes y buasai yr holl greadigaeth yn ochain o'r naill ben i'r llall? Ond nid un felly yw. Y môr a'i luoedd lluosog—y maent yn lluosog iawn yno, yn fwy lluosog na lluoedd y byd yma—y maent yn hapus iawn, y maent wedi eu llunio i chwareu yn y moroedd. Nid ydynt wedi eu creu i amgyffred mohono, ond creodd Duw hwynt mewn rhyw drefn fel ag y maent yn hapus iawn. Yr adar asgellog hefyd, y maent hwythau yn canu rhywbeth fel moliant i'w Creawdwr, o'r gwybedyn lleiaf i'r aderyn mwyaf. Y mae yr adar yn un côr yn canu ei foliant. Nid oes neb yn medru canu ond adar a dyn.
Y mae daioni Duw i'w weled yn ei holl weithredoedd.