Wrth ystyried ei drugareddau y mae efe i'w weled yn amlwg. Ei drugareddau ef sydd yn gyffredin, a pity garw na folianem ni ef am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni. Anifeiliaid y tir, y gwartheg, y maent yn chwareu ar y tir, y maent yn ymborthi ar laswellt, ac ar ol eu digoni, y maent fel yn ymsynied nad oes eisieu dim yn ychwaneg. Y maent yn ddigon hapus, o'r fath ag y mae ymsyniaeth creadur direswm.
Felly yr ydym ninau yn mwynhau daioni Duw. Ai pobl dduwiol sydd yn ei fwynhau? ïe, yr annuwiol hefyd; a phe byddet ti heb fwynhau ei ddaioni, fe roddwn i gyngor i ti beidio ei folianu. Ond y mae pob creadur yn y fan yma yn ei fwynhau, er hwyrach nad yw yn ei adnabod. "Yr ŷch a edwyn ei feddianydd, a'r asyn breseb ei berchenog;" ond hwyrach nad ydym ni yn gwybod "pan ddel daioni," "Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall." Es. i. 3. Yn ein creadigaeth y mae ynom ranau lluosog, a gwahanol orchwylion i'r gwahanol ranau yn y corph; ond nid oes yno ddim wedi ei wneyd o bwrpas i'n gofidio. Y mae yn bosibl i waew fod yn dy ddant, ond nidi hyny y gwnaed ef; ond i falu dy ymborth, er mwyn iddo dreulio yn dy gylla. Nid oes dim wedi ei wneyd i dy ofidio, ond i dy gysuro, ac ar yr un pryd, dylit ystyried y gallasai efe dy greu fel arall—i anadlu, ond eto yn llawn poen; i agor dy lygaid, a hyny nid yn ddiofid i ti, ond ei agor ef fel dattod briw. Y mae y cwbl wedi ei wneyd er dy les; ac onid yw yn bity na folianit ef am ei ddaioni? Gallasai yr hen ddaear yma fod yn annghysurus iawn ini —ein llygaid yn gorfod edrych arni, eto hyny yn gâs iawn genym; ond nid felly y mae hi, ond "hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul." Ond y mae pob peth wedi ei wneyd ganddo yn rhyfeddol at gysur a lles ei greaduriaid yn ei ragluniaeth. Yn llywodraethu y byd, mae efe yn dangos ei ddaioni, ac mor gywir yw ei amcan wrth geisio at les ei greadur fel nad yw un amser yn methu." "Coroni yr ydwyt y flwyddyn a'th ddaioni, a'th lwybrau a ddiferant frasder." Rhyfeddol yw ei drugareddau yn ei holl weithredoedd yn y byd; ac onid yw yn bity na welem ni ef ynddynt? O, mor fawr yw y daioni y mae Duw yn ei ddangos i ddynolryw yn mhob oes o'r byd; a thrueni nad ellir ei ddesgrifio yw—bod dyn heb gydnabod ei ddaioni, ond yn ei ddefnyddio i wrthryfela i'w erbyn.