Mae pob dyledswydd tuag at Dduw hefyd â llawer o gysur yn gysylltiedig â hwy. Caru Duw, ni welsoch chwi erioed beth mor gysurus a hyny. Teimlo y galon yn llawn o gariad tuag ato—cysur yw hwn na wyr y byd ddim am dano. Y mae cysur teimladol i'w gael wrth edifarhau. Y mae'n wir nad oes dim gofid yn y byd yn gysurus; ond y mae y gofid sydd yn hwn rywfodd felly. Hwyrach nad ellir dyweyd fod dim cysur ynddo ef ei hunan; ond y mae yn ei ymyl, oblegyd cysylltir maddeuant ag ef. Nid yw edifeirwch yn gwir ddarostwng dyn, ond ei fai sydd yn gwneuthur hyny. Nid yw edifeirwch yn ei ddwyn yn îs, ond ei ddwyn i deimlo y peth oedd y mae. Y mae ef yn bur isel, ydyw—ond nid yn îs. Y mae yn gweled ei fod yn isel, ac y mae o gymaint a hyny yn gallach heddyw nag o'r blaen, ac y mae yma ymgais am ddiwygiad hefyd. Nid oes dim ychwaith yn nghrefydd Mab Duw nad oes yno gysuron yn yr ymarferiad â hwy.
Y mae daioni Duw i'w weled yn benaf yn ei drefn i gadw pechadur mewn Cyfryngwr. Y mae ei ddaioni i'w weled yn ei lywodraeth yn ei waith yn trefnu pob peth, ond yn ei drefn i gadw pechadur y mae rhagorol olud ei ddaioni yn ymddangos; oblegyd fe amlygodd Duw ddaioni annherfynol ei natur yn anfoniad ei Fab i'r byd. Y Duw mawr! yr hwn a greodd y bydoedd i gyd. Beth a wnaeth? Anfon ei Fab i'r byd. Cododd ein natur yn anfeidrol uchel mewn cysylltiad ag ef. Cododd natur dyn i undeb a'i natur ei hun yn mherson y Mab. Dyma oludoedd daioni y Jehofah. Nid oes digon o ddaioni i'r pechadur tlawd yn y ddarpariaeth ar gyfer angen ei gorph yn y byd. Mae Duw yn dymuno cael dyn yn nes ato nag fel y creodd efe ef. Wrth greu yr oedd efe yn creu o rîs i rîs, yn agosach ato o hyd. Creaduriaid direswm yn uwch na'r llysieu, oblegyd fod bywyd ganddynt. Creaduriaid rhesymol wedi hyny yn fwy na'r direswm. Y cerubiaid ac angelion sanctaidd y gogoniant yn uwch na dyn. Ond nid digon agos yn y fan yna feddyliwn i; ond cododd ein natur grëedig ni i undeb a'i natur ei hun. Y mae amlygiadau o'i ddaioni yn myned bellach, bellach yma. Nid yn unig fe ddarfu y person bendigedig yma ymuno a'r natur ddynol, ond fe ddaeth i barthau isaf y ddaear hefyd, Canys yr hyn ni allai y ddeddf o herwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun, yn