fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd." Coffa i ti gael yr amlygiadau mwyaf grymus o ddaioni Duw. Y mae yn enbyd i ti abusio ei drugareddau. A oes dim yn y Duwdod yn demandio parch? Y mae yr amlygiadau disgleiriaf o ogoniant Duw wedi eu rhoddi yn y Cyfryngwr. Y mae amlygiadau digon grymus ynddo i'th wneyd i'w garu, a digon grymus i dy dywys i edifeirwch. Gresyn yw eu camddefnyddio. Efe a'th wnaeth—gwaith ei ddwylaw ef ydwyt. Nid oes diffyg ewyllys da ganddo. Tybed na chymeri yr iachawdwriaeth a drefnodd? Gochel drci cefn ar ei ddaioni mewn dirmyg, ond yn hytrach, ei ddaioni a'th dywyso i edifeirwch. Os gwrthryfela yn ei erbyn yr wyt yn awr, tafl dy arfau i lawr. Os dibrisio ei ddaioni a wnest hyd yn hyn, moliana ef o hyn allan. Yn nhrefn iachawdwriaeth y mae rhyfeddodau gras; ac y mae yn werth sefyll tipyn i edrych arnynt. Safodd Job i edrych ar ryfeddodau Duw—rhyfeddodau ei ras a'i drugaredd fel Cyfryngwr. Fe ddaw Mab Duw "i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu "ynddo. Diau y bydd iachawdwriaeth yn egluro ei rhyfeddodau yn dragwyddol; "Ar yr hyn bethau y mae yr angelion yn chwenychu edrych." Peidiwch a chau eich llygaid ar ddaioni Duw yn achub dyn, heb ddiolch. Pe byddech heb ddiolch am eich bod yn bobl dduwiol, diolchwch am fod ganddo drefn i wneyd yn dduwiol. Y mae yn medru achub. Y mae edrych ar ei ddaioni yn duedd hynod gref i'th dywys i edifeirwch; ac os deui i lawr, nid aeth neb erioed ddaeth at ei draed, o dan ei draed. Y mae ef yn medru "sathru balchder meddwon Ephraim." Y mae ef yn rhoi y rhai na ddaethant at ei draed, o dan ei draed; ond yr hwn a ddaeth at ei draed, ni roes hwnw erioed o dan ei draed. Diolch iddo am drefn yr iachawdwriaeth. A'i ddaioni fyddo yn ein gyru at ei draed mewn edifeirwch am i ni bechu i'w erbyn.
Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/225
Gwirwyd y dudalen hon