Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/226

Gwirwyd y dudalen hon

PREFETH X

CARIAD DUW

"Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef."—1 COR. ii. 9.

Y MAE cariad nid yn unig yn cadw y byd wrth eu gilydd—cadw y greadigaeth yn un, ond cariad sydd yn ysgogi y cyfan. Cariad sydd yn gyru dynolryw yn eu holl sefyllfaoedd. Byddai hwn yn fyd marwol ac oerllyd, a'i waed wedi rhewi i fyny, oni bai cariad. Y mae gwaith ffydd, a llafur cariad, ac ymaros gobaith, yn ei ysgogi ac yn ei gadw yn fyw.

Y mae y testun hwn yn son am y cariad uchaf sydd mewn body cariad goreu sydd mewn creadur, sef cariad Duw. Nid ydyw y galon ddynol yn alluog at yr un ddyledswydd mwy ysbrydol nac uwch yn ei natur na charu Duw. Hyd y gallaf fi weled a dirnad, y mae pob cariad a blanodd Duw yn dda yn ei le. Y mae hyn heb eithriad iddo ond un, sef cariad dyn at ei bechod a'i fai. Y mae hynyna yn felldith dôst; tostach na hon nid oes yn uffern ei hunan. Nid oes neb yn myned i uffern yn unig o herwydd eu bod yn bechaduriaid. Y mae llawer o bechaduriaid wedi myned i'r nefoedd; o blant y codwm nid aeth neb i'r nef ond pechaduriaid; ond dyma sydd yn seilio colledigaeth dyn, iddo garu ei bechod ac aros felly yn anedifeiriol: myned ar ol ei fai a chofleidio ei chwant, caru yr hyn sydd gas gan Dduw, sydd yn myned ag ef i uffern.

Ond edrychwch ar gariad yn y man y mynoch chwi, y mae yn werthfawr ac yn dlws. Ni fedrwn edrych arno yn un man yn beth isel iawn. Y mae yn ymddangos yn beth pur odidog fod y Duw mawr wedi rhoddi cariad yn yr hên tuag at yr ieuanc, yn mhlith y creaduriaid direswm. Nid ydyw yn hawdd i ni feddwl gymaint o fendith i ddyn ydyw fod y ddafad yn caru ei hoen bach.