I ba beth y soniwch chwi am beth fel yna ar bregeth? Beth a wnewch chwi yn bod yn ddifeddwl am beth fel yna, a'r greadigaeth yn pregethu i chwi o hyd? Oni buasai ei bod fel yna, buasai y rhyw yna wedi myned o'r byd mor llwyr a'r bleiddiaid o'r deyrnas yma. Y mae cariad tad at ei blentyn yn fwy gwerthfawr, o herwydd fod y naill a'r llall yn uwch yn eu natur. Y mae llawer o draul a thrafferth i fagu y plant, er fod yn dda gan y rhieni am danynt, ond pwy fuasai yn talu i chwi pe heb fod yn eu caru? Ond gwna cariad hyny heb ei gymhell. Y mae ambell i bagan yn caru ei blentyn â rhyw fath o gariad angerddol. Cewch weled y fflam hon yn cynesu yn rymus iawn mewn annuwiolion yn gystal a duwiolion. Cariad y pâr priodasol, y mae hwn yn werthfawr iawn. Cariad cymydogion at eu gilydd, mae hyny yn werthfawr hefyd. Y mae tipyn go lew o hono, er fod cymaint o natur rhoddi corn y naill o dan y llall ynom ni ddynion. Y mae yn debyg eich bod chwi yma yn ddigon parod i farnu a beio eich gilydd; ond, er hyny, y mae genych fwy o ffafr i'ch cymydogion nag ydych yn ei feddwl: y mae yn debyg pe byddem haner y ffordd i'r America, y cofiem gyda chariad am ein cymydogion. Yr wyf yn meddwl y buaswn yn annghysurus iawn pe buaswn heb ewyllys da i neb, na neb i minau; ac ni waeth i mi pa mor fuan yr aethwn o'r byd. Y mae cariad y duwiolion at eu gilydd hefyd yn dda iawn. Y mae yn arwydd dda iawn o beth mwy.
Ond sylwn ar gariad pechadur at Dduw a'i Fab, neu at Dduw yn ei Fab. Dyma y cariad uchaf sydd mewn bod. Dyma y cariad goreu. Nid ydyw mor gyffredinol ag y byddai yn dda iddo fod, ond y mae yn annghyffredin o dda.
Y mae y Beibl yn son yn aml am gariad Duw at ddynion. "A chariad tragywyddol y'th gerais, am hyny y tynais di a thrugaredd." "Felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig—anedig Fab." Y mae yr apostol Paul yn dyweyd nad oedd "Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, a allai ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw,"—yr hwn sydd yn ein calonau ni; na, "yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd." Y mae y Beibl yn son yn aml am gariad Duw, cariad y creadur at y Creawdwr, cariad y cristion at Grist, ac at yr holl Dduwdod yn Nghrist. "Ni a wyddom," meddai yr