na chai yr anwyd byth yno,—ni chai y relapse i'r gwahanglwyf byth yno. Ni bydd yno un gelyn chwaith, ac ni bydd raid i ti weithio âg un llaw a dal cleddyf â'r llaw arall; ond ti gei y ddwy law i ganu y delyn, ac eistedd tan dy ffigysbren heb neb i'th ddychrynu. Cei fyw heb angeu hefyd y mae hwn a'i ddwrn ar ein danedd o hyd yma; y mae y bobl, mawr a bach, ieuanc a hen, yn marw. Y mae yr ieuanc yn marw yn aml, ond nid i gyd; ond y mae yr hen yn marw oll bob yn dipyn: ond yn y nef byddant "fel angylion Duw." Priodi a phlanta sydd yn llanw y bylchau sydd yn cael eu gwneyd gan angeu yma, ond yn y nef, byddant fel angelion Duw, "uffern a marwolaeth ni bydd mwyach," tragwyddoldeb o'th flaen. Ar yr hen ddaear yma, nid ydyw tymor dyn arni ond ychydig nid oes gan ddyn hamdden i ddysgu llawer o ieithoedd y byd, ond yn y nef cai amser neu dragwyddoldeb digon o hyd yno. Byddi yn cael edrych yn mlaen yno heb weled terfyn. Nid ydyw Duw wedi gosod terfyn yn nhragwyddoldeb i ddyn fyned ato a dim yn mhellach. Y mae felly yn y byd yma, "Oni osodaist derfyn iddo fel gwas cyflog?" Hefyd, bydd yn brâf iawn yno, holl rai llednais y tir wedi hel at eu gilydd. Yn y byd mawr ni bydd "Ephraim yn cenfigenu wrth Judah, ac ni chyfynga Judah ar Ephraim," ond oll yn cydredeg at yr un daioni. a hyny am dragwyddoldeb. Ni wyddom fawr am y byd mawr. Y mae llen rhyngom â'r byd tragwyddol; nis gallasem wneyd dyledswyddau y fuchedd hon pe buasai y llen yn rhy agored. Ond pa beth a gaf yno? Cei gorph yr un ffunud a'i gorph gogoneddus ef;" cei weled yr Arglwydd Iesu Grist fel y mae, a "bod yn debyg iddo;" cei gwmni saint ac angelion yn un, a thragwyddoldeb i'w mwynhau; cei garu Duw, a Duw i'th garu dithau, heb ddim ymsen tan y fron; bydd hyny yn hyfryd iawn. Nid rhyfedd i Paul ddyweyd, "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw." Meithrinwch feddyliau mawr a theilwng am Dduw. Nid gwaith ydyw caru Duw ag y gall dyn ei forcio iddo, ond y mae yn codi oddiar syniadau uchel am y Duw mawr. Gweddïa am i Ysbryd Duw dy oleuo am Dduw, dy barch fyddo fwy fwy iddo, a dy gydwybod fyddo yn gymeradwy o Dduw a'i berffeithiau. Ymhyfryda yn yr Hollalluog, dyna ddigon o waith i ti. Nefoedd fach ydyw caru Duw yn y galon; ac y mae y nefoedd fach ynot
Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/236
Gwirwyd y dudalen hon