Wrth fod y crydd yn rhoi chwe' cheiniog yn ychwaneg nag a wnaethai y tro, fel enill i gynal ei deulu, ar bob un o'r pedwar-ar-bymtheg, talasant am yr ugeinfed dros y cnâf a ddiangodd heb dalu. Tybygem nad oes dim yn amlycach.
3. Y mae yn gwneuthur llafur yn flin, ïe, yn flinach nag y byddai raid ei fod; am ei fod yn llafur am a fwynhäwyd, yn lle am a fwynheir." Nid cof y bara a fwytäwyd;" ac oblegyd hyny eilwaith, "Nid yw y fudd yn lladd y lludded." Mae yn lled hysbys i bawb fod talu neu weithio am yr hyn a fwytäwyd ac a yfwyd, neu a wisgwyd, er's blwyddyn, yn beth a wneir fynychaf mewn teimlad anhyfryd. "Dal llygoden a'i bwyta," a ddarlunia sefyllfa o gryn dlodi. "Byw o'r llaw i'r genau" ydyw hyny, sef byw heb weddill. Ond y mae y cyfryw yn byw fel tywysog o'i gymharu â'r neb sydd yn bwyta ysgyfarnog cyn ei dal," sef yn bwyta ei fara cyn ei enill; ac os bydd yn ddyn gonest, mae yn ddiamheu yn dwyn ofn ac yn petruso. Nid oes tlodion yn mysg dynion anwar, ond tlodi dydd yn ei ddydd; ond y mae y neb sydd yn suddo i ddyled yn ei drethu ei hun â thlodi mewn amser i ddyfod.
4. Mae hyn yn peri fod gofynwyr yn fynych yn gofyn eu dyledwyr pan nad oes ganddo fodd i dalu, yr hyn yn lled gyffredin a bair deimlad chwerw o'r ddeutu. Cryn ruthr ar amynedd dyn ydyw gofyn arian iddo yn gynt nag y mae yn dysgwyl, ac efallai y swm gofynedig yn fwy nag y mae yn ei feddwl; oblegyd cofier o hyd fod gofynwyr yn llawer gwell eu cof na dyledwyr. Dywed y dyledwr, "A oes arnoch eisieu arian can gynted a hyn? Nid oeddwn yn meddwl chwaith fod arnaf yn agos gymaint a hyn yma.' Y mae yn hawdd gweled teimlad y gofynwr oddiwrth y fath iaith. Pethau o'r cyffelyb a ddygwyddant yn dra mynych; ac y maent yn terfynu yn aml mewn yspryd ac iaith annedwydd.
5. Canlyniad cyffredin y dull hwn o drin y byd yw, tori addunedau a siomedigaethau heb rif. Tori adduned mewn amgylchiad lled ddibwys a arwain i dori rhai pwysicach, yr hyn, bob yn ronyn, a wna ddyn yn annheilwng o'i goelio mewn dim. Siomedigaethau, drachefn, pan y cyfarfyddir â hwynt yn fynych, a chwerwant neu a suddant yr yspryd, ac a barant surni ar y tymherau. Y pethau hyn dros yr amser presenol ydynt anhyfryd, ac ni roddant