TLODI.
TLODI sydd amgylchiad yn mha un y ceir y rhan liosocaf o'r teulu dynol. Nid yw rhai breision y ddaear a chyfoethogion y bobl onid ychydig rifedi mewn cymhariaeth. Er hyny, nid yw tlodi yn dynged anocheladwy, efallai, i neb o'i febyd i'w fedd, na chyfoeth chwaith yn etifeddiaeth ddiddiflanedig i'r hwn a'i medd. Dywed y doethaf o ddynion, "Fod un wedi ei eni yn y freniniaeth yn myned yn dlawd," ac y mae arall wedi ei eni yn nghanol tlodi yn eistedd ar yr orseddfaingc cyn cyrhaedd canol-ddydd ei oes.
"Mae llawer fel finau, âg ychydig yn dechreu,
Yn dyfod o'r goreu cyn diwedd eu hoes;
Ac eraili o'u llawnder yn myned ar brinder,
Cyn darfod mo haner eu heinioes."
Ymddengys nad oes un ddeddf o eiddo Duw na dynion yn rhwymo baich o dlodi ar gefn un,—ac yn gosod coron o gyfoeth ar ben y llall, yn y fath fodd, fel nad all y cyntaf weled rhyw gyfleusdra i daflu ei faich gorthrwm i lawr yn gyfreithlawn, a'r olaf golli ei goron trwy esgeuluso yr adeg i gadarnhau yr orseddfaingc trwy gyfiawnder. Rhai o ddeddfau y Duw mawr ydynt sicr a diymod, y rhai nad oes gan greadur ddim llaw ynddynt oll; nid amgen deddfau y nefoedd a'r ddaear, trwy y rhai y mae efe yn dwyn eu llu hwynt allan mewn rhifedi, ac yn eu galw hwynt oll wrth eu henwau; a chan fawr rym y deddfau hyn nid oes neb na dim yn anufuddhau. Rhoddodd ef hefyd ddeddf i'r môr, ac nis troseddir hi; nid yw ei lanw na'i drai yn ymddibynu dim ar ewyllys neb ond ewyllys ei Greawdwr. Nid rhaid dangos i'r wawrddydd ei lle, na hysbysu yr haul pa bryd y dylai gyfodi neu fachludo. Eithr nid yw holl ddeddfau Duw felly, er eu bod mor wirioneddol ddeddfau iddo ef a'r lleill. Y ddeddf trwy ba un y mae efe yn dwyn bara allan o'r ddaear, sydd yn galw am gydymffurfiad dyn, a llafur yr ŷch; a'r ddeddf