sydd yn yr ardd, yr hon sydd yn peri i'w hadau egino, ac i'w choed ffrwytho, sydd yn galw hefyd am athrylith a diwydrwydd y garddwr er dwyn yr amcan i ben. A'r ddeddf foesol, er fod o'i chadw wobr lawer, nid yw sicr o wobrwyo pawb o greaduriaid Duw, oblegyd rhaid iddi gael ufudd-dod gan y creadur a wobrwya. Am efengyl gras Duw hefyd, er bod ynddi awdurdod deddf, ïe, deddf ysbryd y bywyd yn Nghrist Iesu, ni dderbyn neb ei bendithion tra y byddont anufudd i'r alwedigaeth nefol. Yr un modd y mae deddfau yn Rhagluniaeth Duw ar y byd hwn, y rhai, os anufuddheir iddynt, nis gellir cyrhaedd digonoldeb na diogelu meddianau wedi eu cael. Hanesion cywir a ddangosant y gall un, wrth wasgar ei dda a byw yn afradlawn, wario etifeddiaeth deg a helaeth; ac arall, o iselder tlodi, trwy lafur diflin, cynildeb, a rhad y nef, ddyfod i feddianu cyfoeth mwy nag a ddifethodd y llall. Y mae cyfoeth yn newid llaw weithiau. Nid oes un gagendor wedi ei sicrhau rhwng y tlodion a'r cyfoethogion, fel nad all y naill dramwy at y llall.
Nid yw tlodi ychwaith yn dyfod y rhan hanfodol o neb o ddynolryw mwy na'u gilydd, "Gwnaeth Duw o'r un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar wyneb yr holl ddaear," Crewyd hwynt gan yr un Duw; yr un llaw a'u lluniodd, ac o'r un defnydd—holl ddeddfau eu natur sydd unrhyw,—eu perthynas hefyd a Duw fel eu Tad a'u Brenin, a'u cyfrifoldeb iddo fel creaduriaid rhesymol, sydd yr un yn ddïeithriad. Rhaid fod y gwahaniaeth rhwng y ddau ddosbarth hwn, gan hyny, yn amgylchiadol, arwynebol, a chyfnewidiol. Os edrychir ar y baban noeth ar ei ymddangosiad yn y byd, nis gallai neb wybod, pe byddai cyn ddoethed a Chatwg, pa un ai mewn palas ai mewn bwthyn ei ganed, na pha un ai tywysog ai cardotyn yw ei dad. Nid oes un arwydd o'i goryn i'w sawdl pa un ai tlodi ai cyfoeth yw ei dynged. Y mae pawb fel eu gilydd hefyd yn agored i holl ddamweiniau bywyd. Y tan, a'r dwfr, a'r haint, yn nghyda'r cleddyf ac arfau eraill marwolaeth, a gymerant ymaith rai o bob gradd ac oedran. A phan y byddo y Duw mawr yn agor pyrth marwolaeth, ac yn gwneuthur i ddyn "rodio cilfachau y dyfnder," gwna hyny heb dderbyn wyneb y cyfoethog o flaen Ꭹ tlawd. Yn Ꭹ farn fanol, canys bydd "barn wrth linyn a chyfiawnder wrth bwys," ni sonir am gyfoeth na