thlodi, amgen na pha fodd y defnyddiodd y cyfoethogion gyfoeth, a pha fodd yr ymddygodd y tlawd yn ei dlodi; a dyry Duw i bob un fel y byddo ei waith ef.
Hefyd, y mae galluoedd eneidiol yr iselradd yn gyffelyb i'r uwchradd. Gwir fod gan yr uwchradd fanteision addysg na fedd y tlawd, eto gwelwyd ambell un o sefyllfa isel yn tori trwy bob anhawsder nes dyfod i enwogrwydd a dyrchafiad a barodd i'w cydgreaduriaid edrych arnynt gyda syndod er's miloedd o flyneddau bellach. Bachgen tlawd oedd Æsop; ïe, mor dlawd na feddai mo'i gorff a'i aelodau ei hun, yn ol cyfrif ei gydwladwyr, oblegyd caethwas oedd efe; ond yr oedd ei feddwl mor ddysglaer, a'i ddeall mor dreiddgar, fel na ddïangai dim na neb rhag ei sylw. Anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, ehediaid y nef hefyd, a physg y môr, a gaent ganddo ef iaith ac ymadrodd i ddysgu gwersi buddiol i ddyn; mor fanwly traethai efe i ddynion eu breuddwyd a'i ddeongliad, fel yr aeth ei leferydd trwy yr holl ddaear a'i eiriau hyd derfynau y byd. Martin Luther hefyd oedd fachgen tlawd; cardotai ei fara i'w gynal tra yn yr ysgol pan yn ieuanc; ond wedi tyfu i fyny, gwnai daranau â llais ei hyawdledd, nes y crynai tyrfa afrifed o offeiriaid, esgobion, cardinaliaid, a'r Pab o Rufain hefyd, gan eu harswyd. Melancthon ddysgedig, a gwir foneddigaidd ei yspryd, hoff gyfaill Luther, oedd fel yntau o sefyllfa isel yn y byd. Eurych oedd Ioan Bunyan wrth ei gelfyddyd; eto yr oedd yn ddyn tra meddylgar; ysgrifenodd lawer o lyfrau, ac yn enwedigol "Taith y Fererin," yr hwn, meddynt, a gyfieithwyd bron i holl ieithoedd Ewrop. Gwir fod yn mhlith yr arglwyddi, yr ieirll, y duciaid, a'r tywysogion, ddynion tra enwog wedi bod ac yn bod; cawsant fanteision, a gwnaethant ddefnydd o honynt; ond y mae yn amlwg mai nid o'r dosbarth hwn yn unig y mae Duw yn codi rhai i fod yn oleuadau yn y byd. Ceir yn mhlith y tlodion feirdd heb rif, a dynion dysgedig yn mhob iaith ac yn mhob gwybodaeth; a gweithiant yn mhob rhyw gelfyddyd fuddiol a chywrain ar dir a môr. Y mae arferion isel, megys meddwdod, godineb, a'r cyffelyb, yn enwedig o'u hir arfer, yn gwanychu ac yn pylu y galluoedd eithr ni wna iseldra sefyllfa niwed yn y byd iddynt, ond ysgatfydd, o'r tu arall, ei bod yn well er peri grymusder corph a meddwl.