PENNOD II
MR. HUMPHREYS A'I DUEDDIADAU CREFYDDOL.
DYWEDASOM yn barod fod ei dad a'i fam yn aelodau eglwysig gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Dyffryn; ond nid oedd yn arferiad, nac yn wir yn oddefol, i rieni fyned a'u plant gyda hwy i'r cyfarfodydd eglwysig y pryd hwnw. Ond er hyny cafodd Richard Humphreys ei fagu yn grefyddol, mor bell ag yr oedd dangos erchylldod pethau drwg, a'r niwed oedd mewn arfer llwon a rhegfeydd yn myned; ac nis gallodd erioed gymeryd "enw yr Arglwydd ei Dduw yn ofer." Bu yn y Dyffryn-pan oedd efe o gylch deng mlwydd oed-ddiwygiad grymus, trwy yr hwn yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys; a byddai yntau yn arfer dyweyd ei fod y pryd hwnw wedi teimlo awydd cael crefydd. Ond yr oedd yn cael ei hunan yn dywyll iawn am ei natur, a bu yn hir cyn gweled dymunoldeb a theg- wch yr Arglwydd Iesu, na theimlo ei angen am dano yn Waredwr iddo. Ond pan ydoedd o gylch un-ar-hugain oed gwnaeth ei feddwl i fyny i "geisio doethineb," a bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd.
Derbyniasom amryw hysbysiadau am ei ddychweliad at grefydd, ac y maent oll yn cytuno mai gwaith graddol oedd yn cael ei gario yn mlaen arno. Ni ddychrynwyd ef gan na tharanau na mellt, na mynydd yn mygu, na llais udgorn, ond y "llef ddistaw fain" a'i tynodd ef allan i wneyd proffes o'r Gwaredwr. Gwnaeth yr Arglwydd âg ef, fel gydag Ephraim gynt, "Dysgodd iddo gerdded, gan ei gymeryd ef erbyn ei freichiau; tynodd ef â rheffynau dynol ac â rhwymau cariad; cododd yr iau ar ei fochgernau, a bwriodd ato fwyd." Dywedodd wrtho, "Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhâu, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio." Llawer gwaith y dywedodd, os gwyddai ddim am waith yr Yspryd, mai araf iawn y dygwyd ef yn mlaen arno ef. Ond wrth ddyweyd na theimlodd bethau grymus iawn ar