ddyledus iddynt hwy, ac mai gweithredoedd da tros ben a orchymynwyd ydyw bod iddynt geisio byw arnynt eu hunain. Ni ddymunem eto weled diddymiad y cyfreithiau hyn, am fod cymaint o dlodi wedi ei gynyrchu fel y mae amheuaeth a fyddai eluseni gwirfoddol yn ddigon i gyfarfod âg angen y tyrfaoedd sydd yn mhob rhan o'r deyrnas yn dysgwyl wrth y dreth. Lled gyffelyb yw y cyfreithiau sydd yn rhoddi y tai a'r tiroedd i'r cyntafanedig; a thrwy briodasau, ac amryw amgylchiadau eraill, y mae maes yn myned at faes, ac etifeddiaeth at etifeddiaeth, hyd onid ydyw tiroedd y deyrnas wedi myned yn berchenogaeth ychydig ddwylaw rhagor y bu, ac y byddai cymhwys ei fod eto. Er na bydd ond ychydig ar gyfer y cangenau isaf o deuluoedd y pendefigion hyn, y mae ganddynt ddylanwad digonol gyda'r tywysog, y swyddog, neu yr esgob, i gael swydd a lle yn yr eglwys, y fyddin, neu y llynges, neu rhyw nyth led gynhes tan y llywodraeth yn rhyw gwr neu gilydd. Bydded eu hafradlonrwydd y faint y byddo, y mae yn nesaf i anmhosibl iddynt fod yn dlawd. O'r tu arall, y mae y rhai sydd wedi eu dysgu o'u mebyd i ddysgwyl wrth gyfraith y tlodion am gynorthwy, bron yn sicr o fod yn dlodion, genedlaeth ar ol cenedlaeth.
4. Priodi yn rhy ieuanc. Y mae yn amlwg bod eisieu ystyried, nid yn unig pwy, ond hefyd pa bryd i brïodi. Dylai pawb fod am rai blyneddau yn gwneyd prawf o'r byd ac o hono ei hun, wedi tyfu i fyny, cyn prïodi, fel y gallo weled a all efe lywodraethu ei hun cyn myned i lywodraethu teulu, a gweled pa faint sydd ganddo yn ngweddill o'i gadw ei hun cyn addaw cadw neb arall. Nid yw priodi, er ei fod yn osodiad Duw, ond direidi, heb fod rhyw olwg resymol am fywioliaeth, heblaw dywedyd fod y plwyf yn ddigon cryf, a bod hwnw i bawb. Cynildeb yn moreu oes am ddeng mlynedd yn y pâr prïodasol a fyddai bron yn ddigon i'w diogelu rhag llawer o eisieu wedi myned i'r ystâd hon. Ond yn lle hyny nid oes ond ychydig o'n pobl ieuainc yn gwybod gwerth arian hyd oni phriodant, ac erbyn hyny deallant fod eisieu gwybod yn gynt. Cânt eu hunain mewn llyn dwfn cyn dysgu nofio, pan y gallasent ymarfer mewn dwfr basach lle nad oedd perygl boddi.
5. Afradlonrwydd. Y mae meddwdod a phob afrad arall yn dwyn tlodi yn uniongyrchol ar bobl o sefyllfa