tros eu holl gorff. Siaradant am bawb ac am bob peth, a gadawant lafurio i'r sawl a glywo ar eu calon. Y mae eraill mor ddifater, fel nas gwaeth ganddynt ffordd y cerddo y byd, llwm a llawen ydynt hwy; ni waeth ganddynt, ac ni waeth iddynt, beth yw pris y farchnad na chyflog y gweithiwr. Yr oedd gŵr a gwraig, lawer o flyneddau yn ol, yn arfer crwydro parthau o Ogledd Cymru, a elwid "Ned Leban" a "Chadi Libni." Yr oedd y ddau wedi ymgael i'r dim, y naill mor ddiymadferth a'r llall: nid oedd ganddynt ddim i'w edliw i'w gilydd; y ddau mor ddiwaith a dilun ag y gallent fod. Dyn lled dal oedd Ned, ond ni safai byth yn syth; esgidiau baglog fyddai am ei draed, a'i goesau yn haner noeth rhoddai gymaint ag a feddai am dano (fel Twmdwncyn), a llawer amlach twll na botwm ar ei wisg. Anfynych yr ymolchai, a phrin y tynai grib trwy ei wallt unwaith bob lleuad. Nid oedd Catrin, druan, ddim gwell: y cyfan ar a oedd yn ei chylch oeddynt ar ehedeg, heb rwym, trefn, nac ymgeledd. Cyfarfu holl ddefnyddiau tlodi yn y ddau hyn yn y fath fodd, fel pe buasai tlodi wedi ymgnawdoli ynddynt. Ond gwaethaf y modd, yr oeddynt yn epilio; ac y mae llïaws o'r rhywogaeth eto yn cerdded bryn a bro yn Nghymru.
"Bod plant gan blant methiantlyd, Dyna'r bai sy'n diwyno'r byd.'
Y mae tuedd fegerllyd a chardotlyd yn dra chynyrchiol o dlodi, ac odid gwelid neb a ddysgo yr arferion hyn byth yn eu rhoi heibio. Mynych y gwelir genethod o ddeuddeg i bymtheg oed yn cardota; wedi hyny ânt i wasanaethu am rai blynyddoedd. Ceir eu gweled yn eu boots a'u 'sanau gwynion, siwr;—yn fuan clywir eu bod yn feichiog. Yn lled fynych y mae y dynion a'u tynodd o'r ffordd yn eu priodi, rhag ofn melldith Duw neu waradwydd dyn. Tua phen blwyddyn dechreuant ar yr hen grefft eilwaith, ac odid y peidiant tra gallont roi y naill droed heibio y llall. Y mae yn wirionedd anhyfryd i'w adrodd fod Ꭹ fath yma blaid liosog. Trugaredd fod, efallai, y rhan fwyaf, yn llawer gwell yn mhlith y rhai sydd yn gwasanaethu.
8. Cynildeb dibwrpas ac annghrediniol. "Un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo; ac arall a arbed fwy nag