ŵyr holl wragedd y Dywysogaeth erbyn hyn mai yn y drwyth y mae y boddhad, ac nid yn y dail; ond chwareu teg i'r hen deiliwr, yr oedd tywyllwch yr oes yr oedd yn byw ynddi yn ei esgusodi i raddau mawr, pan y mae goleuni yr oes hon yn condemnio y rhai sydd yn cwyno heb achos, oblegyd eto
"Rhyw bwnio mae rhai beunydd,
A llunio bai lle na bydd."
Cofied pawb, gan hyny, wrth achwyn ei gam, rhag ei fod yn gyffelyb i'r teiliwr o swydd Ceredigion.
Yn drydydd, Cofier yn wastad mai y cam mwyaf a ga dyn ydyw y cam a wna ag ef ei hun. Enaid pob cam yw gwneuthur cam âg enaid. Meddai doethineb, "Y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun." Y mae yn llawer gwell dyoddef cam na'i wneuthur. O! mor ofnadwy yw y cam a wna rhai dysgawdwyr âg eneidiau eu gwrandawyr, y rhai a ddysgant orchymynion a dychymygion dynion iddynt yn lle dysgeidiaeth Duw; ac nid llai arswydus ydyw y cam a wna gwrandawyr yr efengyl â'u heneidiau wrth wrthod ac esgeuluso unig iachawdwriaeth yr unig enaid sydd ganddynt. Dyma gam a wneir gan ddynion â hwy eu hunain—cam na ddichon neb arall wneyd ei fath. O ddyn na wna i ti dy hun ddim niweid.
Yn bedwerydd, Gydag ychydig wyliadwriaeth gelir gochel cam oddiar law ein cydgreaduriaid mewn pethau tymhorol yn lled weddol. Ac er fod ein gair da a'n talentau yn agored i gam oddiar law ein cymydogion, yn mhlith y rhai y cenfigena ambell un wrth ein llwyddiant, ac y byddwn yn wrthddrychau rhagfarn rhai eraill; eto ar y cyfan, ni a gawn ein hawl gan y corff cyffredin o'r ddynoliaeth. Os bydd rhai yn atgas tuag atom, bydd y lleill yn dirionach tuag atom na'n haeddiant; os bydd rhai am ein gorthrymu, bydd eraill yn barod i'n hamddiffyn; os bydd rhai yn ein beio pryd na bydd bai, bydd eraill yn ein canmol yn uwch na'n teilyngdod; os cyhuddir ni weithiau o ffolineb, priodolir i ni bryd arall fwy o ddoethineb nag a feddianwn. Felly, wrth fwrw ol a blaen, nid oes nemawr berygl y cawn lawer o gam. Yn gyffredinol, os bydd ffordd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda, fe bair