mo yr archwaeth at degwch a phrydferthwch fel pan oeddynt yn ieuainc; eu bod yn clywed yn drymach; ac ar ol colli mwy na haner eu danedd, eu bod yn hwy yn bwyta; a'u bod yn wanach i gerdded yn gyflym i ganlyn y fintai. Nage,' medd fy ewythr, y byd sydd yn newid; nid wyf fi ond yr un un.' Mae yn drwm genyf weled pob peth yn myned ar ei hên sodlau: pa beth a ddaw o'r byd, ni's gwn.
Yr oeddwn yn gwybod am un hen gyfaill oedranus, pur independent—nid oedd waeth ganddo pwy na pha beth a fyddai neb. Yr oedd tua phymtheg-a-thriugain oed, yn iach a sionc. Yr oedd ganddo hefyd arian a gasglasai ef ei hun, llôg y rhai oedd yn llawn ddigon i'w gadw yn gysurus, càn belled ag y gwna arian hyny. Yr oedd, pa fodd bynag, wedi dyfod er ys tro i ddosbarth yr Hen Bobl. Efe oedd gynghorwr ar bob achos yn mron yn y pentref lle yr oedd yn byw. Yr oedd yn hynod lân ei drwsiad o'i goryn i'w sawdl, a gallai y gath weled ei chysgod wrth edrych ar ei esgidau, gan mor ddysglaer yr oeddynt wedi eu blackio â'r blacking goreu oedd i'w gael am arian. Nid oedd bin o'i le mewn unman, na chymaint a botwm yn eisieu. Ei grys oedd càn wyned a'r eira, a'i hosanau yn lanach na chadach gwddf llawer un. NI welid ysmotyn ar ei goat, na tholc yn ei het; ac am hyny o wallt oedd ganddo, yr oedd yn ei gribo a'i osod mewn trefn bob dydd càn sicred a chodi haul. Am eirwiredd ac onestrwydd cyffredinol, nid oedd neb yn sefyll yn uwch. mewn un gymydogaeth o Gaergybi i Gaerdydd. ddeallasom ei fod yn gofidio oblegyd dryllio Joseph, nac yn pryderu oblegyd ei bechod; ac am nad yw y byd yn meddwl llawer am hyny, yr oedd yr henwr, fel yr oedd, yn hynod o barchus a mawr ei ddylanwad. Eisteddai mewn cadair freichiau yn yr un parlwr bob amser yn y gwest-dŷ mwyaf yn y pentref lle y trigai; ac mor gymeradwy oedd ei berson yn ngolwg y tafarnwr, nes y mynodd gael tynu ei lun, a'i osod yn y mur uwch ben y tân yn y parlwr mawr. Yr oedd ganddo air i'w ddywedyd ar bron bob peth a ddygwyddai ddyfod o'i flaen; ac yr oedd llyfr coffawdwriaeth yr amseroedd yn dra hysbys iddo ef; ac os dygwyddai rhyw bethau weithiau gael eu taflu i lawr yn yr ymddyddan ar nad oedd efe yn ei ddeall, cymerai arno ei fod; ac yr oedd hyny yn ateb bron yr un dyben gyda'r