yn anhawdd gochel pleidgarwch yn yr achosion hyn o herwydd grymusder y ddeddf o hunanoldeb yn ein natur. Côf genym glywed am un hen fenyw yn rhoi gorchymyn nghylch ei hwylnos a'i chynhebrwng: Gwnewch,' meddai hi, y ddiod boeth yn dda, a rhowch ddigon o spices ynddi, a gofalwch am ei chadw yn gynhes; rhowch y bwrdd mawr yn y gegin oreu, a'r llian bwrdd goreu arno erbyn ciniaw; a byddwch siwr o wneud cacenau wylnos dda, beth bynag; ond o ran hyny, ni bydd fawr o drefn ar ddim, oni buasai fy mod i yno fy hunan.'
Arferiad maith unrhyw beth a bair weithiau fod gwahaniaethu oddiwrtho yn ymddangos yn fai erchyll. Soniai rhywun wrth hen ddysgybles o Faptist, er ys tro yn ol, fod lle i fedyddio yn cael ei wneyd oddifewn i lawer o'u capelydd y dyddiau hyn. Mae hyny yn burion gan ryw fath,' ebai hi, ond afon i mi.' Nid yw henaint yn gyffredin yn hoffi nemawr ddim o'r newydd. Hen dy lle y treuliodd ganolddydd ei oes i'r hên ŵr, yn hytrach na phalas newydd; yr hen gongl iddo ef, hyd yn nod pe byddai yr huddygl yn disgyn yn fynych am ei ben ac weithiau i'w fwyd. Hen ddodrefn, a hen bobpeth, i hen ddyddiau. Gan rym rhagfarn, gwrthodai yr holl feddygon oedd dros ddeugain oed, meddir, ddarganfyddiad y Doctor Harvey am gylchrediad y gwaed yn y corph dynol, yr hyn a barodd i'r Doctor golli ei barch fel meddyg i raddau mawr. Fel hyn, i raddau, y mae mewn crefydd: hen gapel, hen bulpud, hen benill, ac yn enwedig hen fesurau, i'r hen bobl. Dywedai un na chlywodd ef neb erioed yn gorfoleddu ar fesur newydd. Y mae yn rhaid hefyd pregethu yn ngeiriau a dull yr unfed—ganrif—ar—bymtheg, os amgen bydd y pregethwr yn gyfeiliornwr, pe byddai cân iachused ei gredo â'r deuddeg apostol. Bu rhagfarn enbyd yn erbyn yr Ysgol Sabbothol yn y dechreu. Dirwest, hithau a dderbyniodd gyfryw ddywedyd yn ei herbyn gan rai henafgwyr, yn unig am ei bod yn beth newydd.
Dedwydd benwyni a fo mewn ffordd cyfiawnder! Gwyn ei fyd yr hên ŵr mwynlan a fyddo mor ddoeth a deallus a chadw ei ben yn agored i dderbyn pob gwir, ïe, pe byddai mewn rhyw ddull yn newydd; ac y byddo ei galon mor rasol a gonest fel y gwrthodai bob drwg, pe byddai càn hened a Methusaleh. Ond garw amled y mae yn y gwrthwyneb! Nid ydym byth yn blino wrth glywed canmawl ein hen