Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

meithrin meddyliau tyner am y Duw mawr mewn eraill oedd un o amcanion blaenaf ei weinidogaeth.

Nid hir y bu ar ol ymuno â'r eglwys heb dynu sylw yr hen frodyr fel dyn ieuangc gobeithiol, a dysgwylient y byddai o les mawr gydag achos yr Arglwydd yn eu plith; ac ni chywilyddiwyd hwy am eu gobaith. Yn fuan ar ol hyn yr oedd y diweddar Mr Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn, i fod yn holwyddori y plant yn yr Abermaw. Aeth yntau a'r diweddar Barch. Daniel Evans i'w ei' wrando; ond er eu dirfawr siomedigaeth hwy, a degau eraill, lluddiwyd y gŵr parchedig i ddyfod; a bu yn rhaid i Daniel Evans holi y plant. Ar ol iddo ef holi, gofynwyd i Richard Humphreys ddyweyd gair wrth y plant, ond atebodd, "Nid wyf yn teimlo dim awydd i fod yn ddyn cyhoeddus, ond am Gristion, mi garwn fod yn Gristion da." Ychydig y mae yn ofnus sydd o'r un deimlad ag ef. Y mae llawer mwy yn caru cyhoeddusrwydd nag sydd yn 'caru bod yn saint cywir; ac y mae cyhoeddusrwydd, heb "Gristion da" yn sylfaen iddo, yn fwy o nychdod nag o nerth i achos yr Arglwydd. Ond pa un bynag a oedd 'Richard Humphreys yn caru cyhoeddusrwydd ai peidio, yr oedd yn dyfod yn fwy amlwg o ddydd i ddydd ei fod yn "llestr etholedig," a bod gwaith mawr ar ei gyfer yn ngwinllan ei Arglwydd.

Yn mhen rhyw yspaid o amser ar ol iddo ymuno â chrefydd, aeth yr eglwys y perthynai iddi i deimlo y dylent gael ychwaneg o flaenoriaid. Anfonwyd y cais i'r Cyfarfod Misol; a phenodwyd Owen Evans, tad y diweddar Barch. Humphrey Evans, gydag un arall—ni chawsom ei enw—i fyned i'w cynorthwyo. Noson yr etholiad a ddaeth, a bwriasant goelbrenau, a'r goelbren a syrthiodd ar Richard Humphreys. Wrth ddychwelyd adref dranoeth, dywedodd Owen Evans wrth gyfaill iddo, "Bu eglwys y Dyffryn yn bur hapus yn ei dewisiad neithiwr; cawsant ddyn ieuangc gobeithiol yn flaenor; ac yr wyf fi yn credu fod defnydd pregethwr ynddo hefyd." Trwy y dewisiad hwn dygwyd ef i deimlo cyfrifoldeb swydd, ac ymaflodd yn ei gwaith ar unwaith. Cyfarfodydd gweddio oedd yn y Dyffryn bob nos Sabboth y pryd hwnw, trwy fod y Gwynfryn ac Abermaw gydag ef yn daith Sabboth, a byddai. rhyw un yn adrodd pennod o'r Beibl ar ddechreu y cyfarfod gweddi yn fynych. Gofynid i Richard Humphreys i'w