dref, i ddymuno arno wneyd yn hysbys fod hwn a hwn o'r fan a'r fan wedi marw, ac felly y gwnaed. Tranoeth, fel yr oedd y saer anwadal yn edrych i'r papyr, yr hwn oedd ar y bwrdd yn y tŷ tafarn, gwelai hanes ei farwolaeth ef ei hun. Cyffröes hyn ef yn fawr, er iddo ddeall yn ebrwydd mai celwydd ydoedd. Aeth at gyhoeddwr y newyddiadur, a gofynai paham y dodai yn ei bapyr ei fod ef wedi marw, "a minau fel y'm gwelwch," meddai, "yn fyw?" "Mr. Hwn a Hwn, y merchant, yw fy ngarn i," ebai hwnw. Ymaith â'r saer, mor hyllig a phe buasai wedi gweled bwgan, at y marsiandwr, yr hwn pan y daeth ato a lygadrythai arno fel pe buasai wedi dyfod o blith y meirw. "Paham," ebe y saer, "y rhoddech yn y papyr fy mod i wedi marw, a minau yn fyw, lysti." "Yr wyf yn synu yn fawr eich gweled," meddai yntau, "canys dywedasoch, os byddech byw, y buasech yma er echdoe yn dechreu y gwaith y cytunasom am dano, a thybiais i eich bod yn ddyn i'ch gair; a chan na ddaethoch, cymerais nad oeddech yn fyw, ac felly bernais yn well hysbysu eich marwolaeth, rhag i neb arall gael ei siomi genych fel y cefais i." Erbyn hyn nid oedd gan y saer ddim i ateb, ond aeth ymaith gan benderfynu bod yn fwy prydlawn o hyny allan. Y wers yn yr hanesyn hwn ydyw, fod gan y rhai sydd yn derbyn addewidion well cof na'r rhai sydd yn eu gwneuthur. Cynyrch naturiol anmhrydlonrwydd fel hyn ydyw anymddiried yn y rhai a wnant y cyfryw addewidion.
Mae dyn o'i air yn sicr o fod yn ddyn parchus, boed ei sefyllfa y peth y byddo. Clybuwyd crydd yn dywedyd unwaith, "Pe byddai pawb fel Charles, ni byddai cadw llyfr o un defnydd i mi; gallwn ei roddi i'r siopwyr yn bapyr lapio tobacco y pryd y mynwn." Byddai Charles yn sicr o dalu pryd yr addawai. Nid oedd y gŵr gonest hwn yn enill ond swllt yn y dydd ar ei draul ei hun; ac nid oedd ei holl ddodrefn ond gwerth ychydig bunoedd; eto nid oedd dim yn eisieu arno ef, a'i hen wraig, i'w gwneyd, nid yn unig yn ddiwall, ond hefyd yn gysurus. Yr oedd mor brydlawn yn ei daliadau ag ydyw trai a llanw y môr; oblegyd hyn, cawsai ei goelio am ddigon i'w gynal, yn fwyd a dillad, am ddeng mlynedd, pe mynasai. Nid oedd yn nyled neb o ddim pan y bu farw, ond gadawai ryw gymaint ar ei ol i'w wraig; a chafodd hithau ddigon, a pheth yn ngweddill. Yr oeddynt ill dau yn