Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/293

Gwirwyd y dudalen hon

cymerer pob mantais. Gwneler y cyfan yn brydlawn, oblegyd dyna yr amser hawsaf i gyflawni pob dyledswydd, a thyna y pryd mwyaf rhesymol ac ysgrythyrol i ni ddysgwyl cymhorth gan Dduw i gyflawni ein dyledswyddau pwysig. Wel ynte, pob peth yn ei le; hyd yn nod pob gair, bydded yn ei le; a phob dyledswydd yn ei hamser. Bydded ein ïe yn ïe, a'n nage yn nage. Rhodder yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw—a bydded y cyfan yn ffrwyth yn ei bryd.—Y Traethodydd, Gorph., 1846.

CAMGYHUDDIADAU.

ANHAWDD penderfynu pa un fwyaf tueddol i ddyn syrthiedig ydyw cyhuddo ei gymydog o fai nad yw yn euog o hono mewn gwirionedd, ai ynte esgusodi ei hun mewn bai sydd yn gwbl hysbys iddo ei fod ynddo. Y mae hyn yn dra mynych yn dygwydd: weithiau fe gyhuddir ein cydddyn o fwy o fai nag sydd yn bod, neu o egwyddor adgasach na'r un y gweithredwyd oddiarni; ac yn fynych fynych darnguddir ein bai ein hunain, os bydd yn anmhosibl eu guddio i gyd, gan briodoli i ni ein hunain egwyddor a chalon dda,

"Ac ni chlywir neb yn dadgan
Fawr ei hynod feiau 'i hunan.'

Ni ddichon sant na phechadur ddïanc rhag camgyhuddiadau. Dywed diareb, "Mwyaf cam, cam lleidr." Os bydd un mwy llawflewog na'i gilydd mewn cymydogaeth, cyfrifir pob lledrad iddo ef, pryd mewn gwirionedd fod aml un yn lladrata yn ei gysgod. Clywsom ddyn meddw unwaith yn dywedyd y cyhuddid ef o feddwi ambell dro pan na byddai wedi gweled diod gref, rhagor yfed o honi. Er gwaethed yw yr yspryd drwg, y mae yntau yn cael cam aml waith; nid fod nemawr ddrwg yn cael ei gyflawni heb ei ddylanwad ef, ond y camwri yw, y rhoddir yr holl fai wrth ei ddrws ef, pryd y mae y dyn sydd yn ei gyhuddo yn euog o'r haner. Ni ddianc y rhinwedd