asyn, ac mor ddiwyd yn hel yr ysig ag ydyw y gwenyn yn casglu mêl Mawr dda iddynt ar yr ysnafedd!
"Rhyw bwnio bydd rhai beunydd,
A llunio bai lle na bydd."
Nid ydym yn cymeryd arnom gyfiawnhau dynolryw, ond addefwn fod beiau yn bod nid ychydig, a phob un a ddwg ei faich ei hun. Y mae yn dda chwilio am rinwedd, ond nid am fai, canys
"Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A brawddyn lle ni byddai."
Ond dwbl wfft i genfigen! nis gall hi na gwneyd na dyoddef yr hyn sydd yn dda.
"Ni wna dda, y ddera ddall,
Ni erys a wna arall."
Ystyrier yn gyntaf fod dyweyd a chredu y gwaethaf am eraill yn fai yn ngwyneb yr holl ddeddf—yn wrthwyneb i yspryd y gyfraith sydd yn dywedyd, "Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, a'th gymydog fel tydi dy hun." Cariad ni feddwl ddrwg." Lle y mae un yn meddwl drwg i'w gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn ei ymyl, y mae ynddo ddiffyg cariad.
Yn ail, y mae yn peri teimlad drwg mewn cymydogaeth, ac yn achosi niwed. Gwreiddyn chwerwedd ydyw ag sydd yn llygru llawer, ac yn peri blinder. Os câ hwn wreiddio, fe wywa pob rhinwedd fyddo yn agos ato. Crea anffyddlondeb ac anymddiried, a drygau eraill y pallai amser i'w henwi.
Yn drydydd, y mae yn annhraethol ei niwed yn yr eglwys. Gwnaeth yr hyn y methodd tân a ffagodau ei wneuthur, sef dinystrio eglwysi Crist. Am hyny y dywed Paul," Eithr os cnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd." Y mae camgyhuddo brawd wedi bod yn dra niweidiol ei ganlyniadau. Odid y coelia pawb y camgyhuddiad; bob yn dipyn daw y gwirionedd allan (y mae rhywbeth yn natur pethau, fel pe mynai gwir a chelwydd ddyfod o'u tyllau, a'u gwneyd ei hun yn amlwg i bawb); a'r canlyniad fydd, pleidia rhai yr ochr hyn, ac eraill yr ochr arall; glŷn rhai wrth yr hen bwnc, a'r lleill wedi ildio i nerth gwirionedd ydynt yn synu nad ildiai pawb iddo.