Fel hyn y mae teimladau anfrawdol nid ychydig yn cael eu cynnyrchu.
Yn bedwerydd, nis gall lai nag archolli y camgyhuddedig yn ddirfawr. Y mae pob brawd neu chwaer fo dan ddysgyblaeth yn hysbys o'u hanes eu hunain, a gwyddant pa faint o'r cyhuddiad sydd wirionedd, a pha faint sydd heb fod; ac os delir yn dyn ar yr hyn sydd gam yn y cyhuddiad, y mae yn chwanog i'r cyfryw feddwl ei fod yn wrthddrych rhagfarn y swyddogion eglwysig yn y man y bo. Cyll yn ebrwydd bob parch iddynt, a phob ymddiried yn nghywirdeb eu dybenion; pa faint bynag oedd eu bri o'r blaen yn ei olwg, y mae yn ymado fel cwmwl y boreu. I wneuthur hyn yn fwy amlwg, adroddwn hen hanesyn. Clywsom am ferch ieuangc (o ran priodi) a ddaeth yn yr hen amser gynt o sir Fôn i wasanaethu i Glynnog, yn Arfon; ac wedi trigo yno am dro, meddyliodd rhyw ŵr ieuangc am wneuthur gwraig o honi, ond yr oedd yn arafu am na wyddai ei hanes, ac yn betrusgar am ei nodweddiad. Gwyddai y byddai yn arferedig y pryd hyny fyned o lawer o bobl at fedd St. Beuno, i gyfaddef eu pechodau, a byddai hithau yn arfer myned; a deallodd yntau pa noswaith yr âi, ac aeth i eglwys y bedd o'i blaen, ac ymguddiodd. Yn mhen enyd, dyma hithau yno; a chan ddechreu ar ei defosiynau, a chyfaddef rhyw fân feiau, dywedai yntau mewn llais gwanaidd, megys o wlad angeu, "Fe fu genyt blentyn ordderch." Hithau, gan dybied mai St. Beuno oedd, a addefai fod hyny yn wir. "Mi welaf, Beuno, y gwyddost ti bob peth." "Bu genyt ddau," meddai llais gwanaidd. "Do, St. Beuno, fe fu genyf ddau; ni chymerais rybudd y tro cyntaf, fel y mae mwyaf fy nghywilydd; fe fu genyf ddau." "Bu genyt dri," meddai y llais. Ar hyn cyfododd y gyffes—ferch yn dra ffyrnig, ac a ddywedodd, "Celwydd Seintyn, yn dy feintyn; ni bu genyf ond dau, a dau fu genyf." Gwelwn yn yr hanesyn hwn fod y ddynes wedi colli pob hyder yn sanctiolwch Beuno wrth gael ei chamgyhuddo ganddo yn ol ei thyb. Cynhyrfodd y ddeddf o hunanamddiffyn, yr hon sydd ddeddf gref yn y natur ddynol, pa un bynag fyddo y dyn ai Protestant, Pabydd, Cristion, ai pagan. Gweithredodd y ddeddf hon ynddi mor rymus fel na theimlai ar y pryd oddiwrth ddim arall. Ac onid fel hyn y mae yn naturiol iddi fod mewn dysgyblaeth eglwysig, os bydd yr