hwy ar y ddaear ffordd y cerddo y byd, nid yw iselbris ac uchelbris nwyddau ac anifeiliaid ond yr un peth iddynt; y maent hwy fel Twm Dwneyn, yn gefnllwm ac esgeirnoeth, yr hwn, ar y diwrnod oeraf, a ddywedai nad oedd arno ef ddim anwyd, ac na byddai ar neb arall ddim pe rhoddent gymaint ag a feddent am danynt fel efe. Y mae rhai fel hyn, wedi ymfoddloni, yn tynu arnynt anfoddlonrwydd rhai eraill. Ond y boddlonrwydd sydd gysylltiedig â duwioldeb a gynwys yn
1. Derbyniad diolchgar y duwiol o holl drugareddau Duw yn ei iachawdwriaeth a'i ragluniaeth, ac ymostyngiad tan alluog law Duw yn ei geryddon, ac yn holl groesau ei daith trwy y byd.
2. Cynwys ystyriaethau teilwng am lywodraeth y Duw mawr—ei bod yn gyfiawn, yn ddoeth, ac yn dda. Dywed mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer.'
3. Gobaith gwastadol yn y meddwl y bydd i bob peth gydweithio er daioni yn y diwedd, pa un bynag ai hawddfyd ai adfyd. Caiff y naill fel y llall wasanaethu yn eu tro i ddwyn oddiamgylch y lles mwyaf y bydd i'r "byr ysgafn gystudd," tan fendith y nef, "weithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni."
4. Cynwysa yr ystyriaeth ei bod yn llawer gwell nag yr haeddasom ei bod, ac yn llawer gwell nag yr ofnasom y byddai, ac ysgatfydd yn well nag y mae ar lawer o'n cydgreaduriaid. Ac megys y mae mesur helaeth o drueni yn yr ystyriaeth nad oes gofid neb fel ein gofid ni, felly y mae mesur o dawelwch yn yr ystyriaeth fod ein gofidiau yn llai na'r eiddo eraill.
5. Cynwys duedd yn y meddwl i sylwi ar amlder a gwerth trugareddau Duw, a gwel y sant eu bod yn amlach na gwallt ei ben, eu bod yn amlach nag y gellir eu rhifo, ac nas gellir bwrw eu gwerth, a bod y rhai mwyaf angenrheidiol yn fwyaf cyffredinol ac amlaf ar yr un pryd. O! mor lluosog yw gweithredoedd Duw, a'i drugaredd fel llen wedi ei thaenu arnynt oll. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef."
6. Y mae boddlonrwydd yn cynwys y gelfyddyd sanctaidd o gadw y dymuniadau am bethau y bywyd hwn o fewn terfynau priodol. Nid yw yn bechadurus i ni ddymuno yn gymedrol bethau da y fuchedd hon, tra nad elom dros