Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

asfa y Bala, canys dyna y fan lle yr oedd yn rhaid ordeinio y pryd hwnw. "Y mae yn gofus genyf," ebe fy hysbysydd, sef y Parch. G. Hughes, Edeyrn, yr hwn oedd yn bresenol, "fod un o'r frawdoliaeth yn areithio yn faith ar bob cwestiwn a ofynid iddo, gan ei brofi a'i ddadleu allan, hyd onid oedd llawer yn dywedyd, Mawr allu yw hwn.' Ond ateb yn lled gwta yr oedd y dyn mawr o'r Dyffryn, ac ymddangosai yn wylaidd a difrifol. Cynhyrfwyd un o wyliedyddion yr athrawiaeth i ddywedyd, 'Wel deudwch Richard.' Gofynai yntau yn dawel, Beth a ddywedaf? Yr wyf wedi dyweyd fy marn ar y mater; gofynwch chwi rhywbeth yn ychwaneg, mi dreiaf eich ateb.' Pan ofynwyd iddo a oedd yn barod i wasanaethu y Corph hyd y gallai, ei ateb ydoedd, Dyn yn trin y byd ydwyf fi, ac yn arfer gweithio gyda'r gaib a'r rhaw, ac mi ddymunwn wneyd fel o'r blaen, yn y cylch a berthyn i mi.' Gofynwyd iddo a oedd yn caru trefn bresenol y Cyfundeb. Yr wyf yn caru trefn y Corph, ond nid ei annhrefn,' ebe yntau. Yr oedd yn hawdd deall ar lawer," ychwanegai Mr. G. Hughes, "mai lled ganolig yr oedd efe yn pasio gyda rhai o'r frawdoliaeth. Diau ei fod yntau ei hunan yn deall hyny; ond nid oedd yn un brofedigaeth iddo, gan na bu enill cymeradwyaeth dynion yn beth mor fawr ganddo ag y buasai yn aberthu dim o'i syniadau er mwyn hyny."

O ddechreuad ei oes weinidogaethol, hyd y cyfnod hwn, ni bu Mr. Humphreys ond yn troi mewn cylch bychan iawn mewn cydmariaeth i'r hyn a fu yn mlynyddoedd diweddaraf ei oes. Yr oedd bron yn anmhosibl cael ganddo fyned ar "daith" nac i "Gymanfa;" ac ni byddai yn myned ar y Sabbothau ond i'r teithiau y gallai fyn'd iddynt y bore a dychwelyd yn yr hwyr. Ond trwy ei fod yn ddyn heinyf a chryf, ni byddai yn llawer o beth ganddo deithio o bymtheg i ugain milldir ar ei draed ar fore Sabboth. Y rhandir a gafodd fwynhau mwyaf o'i weinidogaeth adeiladol ydoedd Dosparth y Dyffryn, yr hwnt sydd yn cyrhaedd o Abermaw i Dalysarnau. Nid oedd yn y dosparth y pryd hwnw ond dwy o deithiau Sabbothol, sef Abermaw, Dyffryn, a'r Gwynfryn; Talysarnau a Harlech; a byddai yntau yn pregethu yn un o'r ddwy daith bron bob mis yn ei flynyddoedd cyntaf. Ni phregethodd yr un gweinidog perthynol i'r Cyfundeb fwy yn ei gartref ei hun na Mr. Humphreys. Heblaw y byddai yn y