Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/54

Gwirwyd y dudalen hon

Humphreys yn sicr o fod yn dal dillad yn rhywle gerllaw iddo. Ond nid dal dillad yn unig a wnaeth ef, ond ymdaflai i ganol y tân. Dywedai mewn Cyfarfod Misol unwaith, lle yr oedd yr achos hwn yn cael ei ddadleu, "Y mae yn rhaid i'r eglwysi ddyfod allan yn fwy haelionus os ydynt am i'r achos lwyddo yn ein plith. I mi yn bersonol nid yw o ddim pwys, ni bydd arnaf fi eisieu ond suit neu ddwy o ddillad yn rhagor, ac fe wna pâr neu ddau o esgidiau y tro i mi: ond beth am fy mrodyr ieuainc sydd yn y weinidogaeth, ac o dan bwysau y byd? Pa fodd y gallant wasanaethu crefydd os na bydd i'r eglwysi ddyfod allan i'w cynorthwyo?" Cofus genym ei glywed mewn Cyfarfod Misol arall yn rhoddi cyfrif o'i dderbyniadau a'i dreuliadau gyda'r weinidogaeth am flwyddyn, a hyny er dangos pa mor lleied oedd ganddo yn weddill at gynal ei hunan a'i deulu. Yr oedd yn llawer haws iddo ef wneyd hyn na neb o'i frodyr, a hyny am y gwyddai pawb nad oedd ef yn bersonol yn ymddibynu ar y weinidogaeth.

Nid mewn Cyfarfodydd Misol mewn cymoedd gwledig, rhwng mynyddoedd Gorllewin Meirion, y byddai Mr. Humphreys yn unig yn traethu ei olygiadau ar gynhaliaeth y weinidogaeth. Yr ydym yn ei gael yn yr ordeiniad yn y Bala, yn Mehefin, 1841, yn traddodi araeth ar ddyledswydd yr eglwys at y gweinidog; a chofir yn hir am dano yn adrodd hanes Mr. Pugh, Dolgellau, a'i ferlyn. Yr oedd Mr. Pugh yn cadw merlyn, yn benaf, os nad yn gwbl, er mwyn ei roddi i'r pregethwyr a fyddai yn galw yno ar eu taith i'r lleoedd o amgylch Dolgellau; a phan y deuai merlyn Mr. Pugh i'r lleoedd cyfagos, yr oeddynt yn ei adnabod, a byddent yn ei adael heb roddi bwyd nac ymgeledd iddo. O dipyn i beth fe y merlyn farw, a daeth rhyw gyfaill at Mr. Pugh i ddyweyd y byddai yn well iddo gael merlyn etto, fod yn fraint iddo gael ei roddi i wasanaethu gweinidogion lluddiedig. "Wel," ebe Mr. Pugh, os oedd yn fraint i mi, fel yr wyf yn credu ei bod, gael rhoi benthyg y merlyn, pity na buasech chwithau yn gweled eich braint o roddi tamaid iddo i'w gadw yn fyw." "Wel, ie," ebai y cyfaill drachefn, i'w gysuro am ei ferlyn, ond mi gewch chwi eich talu yn adgyfodiad y rhai cyfiawn." "Oh!" meddai Mr. Pugh, "nid oes fawr o ddoubt am hyny, ond os collaf geffyl yn aml fel hyn, y cwestiwn ydyw, pa fodd yr af fi hyd yno." Yr oedd y