broffesu—ac yn ymarfer a'i ordinhadau—pe na byddai yno yr un capel na thŷ plwy'—fe fydd eglwys i Iesu Grist yn y fan hono.
I. CEISIWN DDAL Y DDWY YSTYRIAETH AM YCHYDIG AMSER AR GYFER EU GILYDD, FEL Y GALLOM GAEL GOLWG GLIR AR Y NAILL A'R LLALL.
Mae y naill yn y llall—y naill yn cynnwys y llall. Mae yr eglwys ddirgeledig yn y weledig, ond y mae yn ofnus fod llawer o'r weledig heb fod yn y ddirgeledig.
1. Nid yw yr eglwys ddirgeledig ond un trwy y byd. Un corph o dduwiolion ydyw. "Yr eglwys, yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll." Bydd aelodau hon ar gael byth yn un eglwys—maent wedi eu geni oddiuchod i gyd yr un modd a'u gilydd. Ond nid felly y weledig. Mae hi yn llawer o gynnulleidfaoedd—yn hanfodi dan wahanol oruchwyliaethau, mewn gwahanol oesau, a gwahanol wledydd, yn siarad gwahanol ieithoedd, ac i'w chael ymhlith llawer o wahanol enwadau crefyddol.
2. Yn yr eglwys ddirgeledig nid oes yr un rhagrithiwr. Nis gall hwnw ddyfod i mewn yno. Mae yr Arglwydd yn adwaen pawb sydd ynddi fel ei eiddo. Ond, fel y mae gwaethaf y modd, mae yn yr eglwys weledig ragrithwyr. Nid yw yn hanfodol i eglwys weledig Crist fod ynddi ragrithwyr; gwnai y tro yn well hebddynt; ond fel hyn y mae yn dygwydd bod. Yn gyffelyb i'r saith o wragedd yn ymaflyd mewn un gŵr, gan ddywedyd, "Ein bara ein hun a fwytawn, a'n dillad ein hun a wisgwn; yn unig galwer dy enw arnom ni;" felly y mae yn eglwys weledig Crist, yn enwedig os bydd hi yn gostymol, ac yn cael ei chysylltu âg awdurdodau gwladol. "Ni a fyddwn fyw i'n pleserau, ac a borthwn ein chwantau; eto galwer arnom enw Crist." Nid yw yn angenrheidiol iddi fod fel hyn. Yn mysg y dysgyblion cyntaf oedd gan Grist, nid oedd ond un o ddeuddeg yn troi yn ddrwg; ond dywedodd ef ei hun, "Tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion—pump yn gall, a phump yn ffol." Dyna yr hanner yn rhagrithwyr. Felly mae y ddameg yn golygu amser gwaeth ar grefydd nag ydoedd yn nechreuad yr oruchwyliaeth efengylaidd. Fel hyn y mae rhagrithwyr yn yr eglwys weledig. Eto, nid oes eglwys weledig i Grist heb fod ynddi saint. Gall cynnulleidfa a chyfundeb ddwyn enw y weledig heb fod yno neb saint; ond nis gall fod eglwys i Grist heb fod ynddi rai duwiolion.
3. Yn yr eglwys weledig y pregethir yr efengyl, ac yr ymarferir â'r ordinhadau; ond ffrwyth y pregethu, a ffrwyth y gweddïo, dan ddylanwad Ysbryd Duw, sydd yn rhoddi hanfodiad i'r ddirgeledig. Mae yn perthyn i'r weledig "gynnal gair y bywyd;" ac yn yr ystyr yma, y mae yn "golofn a sylfaen y gwirionedd:" bod yn y ddirgeledig yw meddu argraff y gwirionedd ar y galon. Peth mawr a phwysig yw bod yn perthyn i hon.
4. Yn yr eglwys y mae dysgyblaeth i fod yn ol gair Duw. Mae hon yn ateb yr un dyben ag ydyw cyfreithiau a chosbedigaethau mewn gwladwriaeth. Oni bai fod drwgweithredwyr i gael eu cosbi, ni allai neb ddyweyd mai hwy a biau eu henaid eu hun; elai y naill hanner yn lladron ac yn llofruddion yr hanner arall. Mae eglwys heb ddysgyblaeth yn myned yn ogof lladron. Mae dysgyblaeth eglwysig yn gynnwysedig mewn cynghori