Yr oedd yn gallu ymdaflu i'w canol, a bod yn un o honynt. Nid oedd annibyniaeth ei amgylchiadau, na choethder ei feddwl, yn gwneyd iddo ymddidol, na dywedyd wrth un o honynt, Saf hwnt. Byddai yn dra gofalus rhag pasio neb o'i gydnabod ar y ffordd heb ddyweyd rhyw air siriol wrthynt. Cofus genym fyned gydag ef o'r capel i'w dŷ un noson; yr oedd yn hirddydd haf, a'r hîn yn bur hyfryd. Dywedai rywbeth wrth bob un a'n cyfarfyddai. Gwraig lwyd, deneu, esgyrniog, ond bywiog a siriol, oedd y gyntaf a'n cyfarfu," Yn enw dyn, hon a hon," ebai wrth hono, "paham na ofyni fendith ar dy fwyd, dywed, yn lle dy fod mor ddrwg yr olwg ac mor gul o gig."
Wedi myned yn mlaen ychydig, gwelai ddyn yn gorwedd ar ben clawdd y ffordd, "Wel hai," meddai wrth hwnw, "beth yr wyt ti yn gosod dy hun ar ben y clawdd i'r gwybed bach, dywed?"
Cyn cyrhaedd y Faeldref, trodd i mewn i dŷ bychan oedd ar ochr y ffordd i gael tori ei wallt, ac meddai wrth yr Hair Cutter, "Paid di a bod yn hir yn sadio dy hun o'm cwmpas i."
"Gadewch lonydd, Mr. Humphreys," ebe yntau, "ni bydd neb yn canlyn arnaf i frysio ond chwi."
"A wyddost ti hyn, mai ychydig o bobol y Dyffryn yma sydd yn arfer rhoddi pris ar amser?"
Fel hyn y byddai yn rhydd a chyfeillgar gyda phawb o'i gydnabod. Ymgymysgai â hwynt gyda phob peth perthynol iddynt fel ardalwyr. Yr oedd yn gynghorwr yn eu cyfarfodydd plwyfol, a chymerai ran fel gwladwr a dinesydd gydag etholiadau seneddol. Yr ydym yn ei gael ar un adeg yn Harlech, ar ddiwrnod cynyg Marchog dros y Sir. Wedi i ryw un gynyg R. Richard, Ysw., o Gaerynwch, cynygiodd Mr. Humphreys Syr William Wynne. Yr oedd yno ryw gyfreithiwr yn meddwl tipyn o hono ei hun, a dywedodd wrtho, "Pregethwr ydych, onide?" "Ie," ebai yntau, "ond a ydyw hyny yn peri nad wyf yn wladwr a dinesydd?" Tybiodd y cyfreithiwr, mae yn debyg, y buasai yn gwneyd iddo gywilyddio a gostwng ei ben, ond cafodd weled yn lled fuan ei fod wedi methu ei ddyn. Yr oedd Mr. Humphreys yn teimlo, os oedd i gael ei drethu a'i drin gan y cyfreithiau fel pawb o ddeiliaid y llywodraeth, fod ganddo hawl i ymgymeryd â phethau gwladol, fel dinesydd arall, er ei fod yn bregethwr.