Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd Mr. Humphreys wedi ei alw yn Hedd ynad yn y Sir, ond fe wnaeth lawer o waith y swydd yn y Dyffryn. Gwrandawodd lawer cŵyn, a thrwy ei gynghor doeth a phrydlon adferwyd heddwch rhwng llawer dau o'i gymydogion. Trwy ei fod mor agos at bawb, byddai yn hawdd gan lawer redeg ato i achwyn eu cam. Byddai rhai yn myned weithiau gyda phethau nad ystyrid ganddo ef yn bwysig, ac ni byddai efe yn arfer gwneyd pethau felly yn fwy, ond yn llai, os gallai. Aeth gwraig o'r gymydogaeth i achwyn ar ei gŵr o herwydd rhyw gam-ymddygiad o'i eiddo: "Wel aros di," gofynai Humphreys, "beth oeddyt ti yn ei wneyd i'w gythruddo." Bu y wraig, druan, yn ddigon gonest i ddyweyd y gwir wrtho. Gwelai Mr. Humphreys ei bod wedi rhoddi tramgwydd i'w gŵr, a bod bai mawr arni, a gofynodd iddi, "A ddywedaist ei fod wedi dy daro di?

"Na, ni tharawodd fi," ebai y wraig.

"Wel, fe ddylasai wneyd," ebai yntau.

Felly bu raid i'r wraig droi allan heb lythyrau oddiwrth yr offeiriad i lusgo ei gŵr i garchar y tro hwnw.

Dro arall cyfarfu â hen chwaer ar y ffordd, yr hon oedd wedi ei chythruddo yn ddirfawr gan un o'i chymydogesau. Dechreuodd achwyn ei cham wrth Mr. Humphreys, ac wrth ei gweled mor llawn o'r yspryd dial, dywedai wrthi, "Gadewch iddi, hon a hon bach, fe dâl yr Arglwydd iddi."

"Mi wn hyny," ebai hithau, "ond mi fydd y Brenin Mawr. yn hir ofnadwy yn talu iddi." Adroddai Mr. Humphreys yr hanesyn hwn yn aml, a hyny am y credit oedd yr hen wraig yn ei roddi i'r Hollalluog.

Hefyd yr oedd Mr. Humphreys yn gallu mwynhau ei gymydogion. Trwy ei fod yn troi cymaint yn eu plith, yr oedd yn adnabod gwahanol gymeriadau y gymydogaeth yn dda. Byddai yn arfer dyweyd fod mesurau traed pobl y Dyffryn yn lled gyffredin ganddo, ac y byddai yn gweled y mesurau hyny yn ffitio traed pawb. Hawdd ydoedd deall oddiwrth y cyfeiriadau mynych a wneid ganddo at ei gymydogion ei fod yn arfer a sylwi ar eu harferion, a mwynhau llawer arnynt. Os byddai arno eisieu cadarnhau rhyw ddywediad, neu egluro adnod neu ddiareb, odid fawr nad ymddygiadau rhai o'r Dyffrynwyr a ddygid yn mlaen ganddo i hyny. Gofynai cyfaill ieuangc iddo