Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/74

Gwirwyd y dudalen hon

wrth gyd-deithio âg ef unwaith, sut yr oedd deall y gair hwnw, "Rhyw un a wasgar ei ddâ, ac fe a chwanegir iddo a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi." "Wel aros di, William," ebai yntau, "rhyw esponiad pur lythyrenol a wna dy dro di. Yr oedd dwy wraig yn y Dyffryn acw wedi myned i'r mynydd i ymofyn pawb ei faich o fawn, ac wedi dyfod adref, fe roddodd un danllwyth da ar y tân i wneyd cinio i'r teulu, ac fe wnaeth hyny yn brydlon gyda haner ei baich. Cymerodd y llall fawnen, a thorodd hi yn ddarnau, a gosododd hwy ar y tân, ac yna dechreuodd chwythu, a dyna lle y bu yn rhoddi mawnen a chwythu, mawnen a chwythu, nes y llosgodd y baich i gyd, ac heb wneyd cinio i'r teulu yn y diwedd. Yr oedd hono, ti weli, yn arbed mwy nag a weddai' o'r mawn, a thrwy hyny yn methu a gwneyd y cinio yn barod er llosgi y baich i gyd."

Anfarwolodd Mr. Humphreys goffadwriaeth un o'i hen gymydogion trwy ei ail adrodd, sef Richard Williams, Corsddolgau. Efe oedd y cymydog agosaf i deulu y Faeldref; ac yr oedd yn hynod am ei atebion pert, ac am ei arabedd. Hen dy salw yr olwg oedd Gorsddolgau pan oedd Richard Williams yn byw ynddo, a gofynai Humphreys iddo un diwrnod,

"Oes arnoch chwi ddim ofn byw yn yr hen dŷ bregus acw, Richard?"

"Nac oes," ebai yntau, "bydd arnaf ofn marw ynddo yn aml."

Wedi i Mr. Humphreys briodi, gwahoddodd ei hen gymydog, Richard Williams, i ddyfod i weled Mrs. Humphreys. Aeth yntau, a gofynodd Humphreys iddo,

"Beth ydych yn ei feddwl o honi, Richard?"

"Wel," atebau yntau, "y mae yn debyg eich chwi yn'ei leicio hi, ond am danaf fi, gwell gen i Betty": a'r Betty hono oedd ei wraig ef ei hun. Wedi i Mr. Humphreys adeiladu tŷ newydd, gwahoddwyd Richard Williams i'w weled. Byddai yr hen gymydog yn arfer a chael benthyg arian gan deulu y Faeldref, ac yr oedd arno ddwy bunt iddynt y pryd hwnw. Mrs. Humphreys a ymgymerodd a bod yn arweinydd iddo trwy y tŷ newydd. Aeth ag ef o'r naill ystafell i'r llall, a phan oedd yn myned i'r pantry dywedai Mrs. Humphreys,

"Dyma ystafell ein bara beunyddiol ni, Richard."