am fenthyg arian iddi tan y pryd a nodasoch." Aeth y dynion, a dychwelasant yn fuan, prynasant y nwyddau gan Mr. Humphreys, a thalasant am danynt gydag arian Mrs. Humphreys.
Peth arall oedd yn gwneyd i'w gymydogion feddwl mor uchel am dano ydoedd—Gwyddent ei fod yn caru eu lleshad ac yn llawenhau yn eu llwyddiant. Yr oedd ei ymdrechion diflino i'w hyfforddi gyda golwg ar bethau y ddau fyd yn brawf o'r fath gryfaf iddynt fod ganddo wir ofal calon am danynt. Nis gwyddom am neb a dalodd fwy o sylw nag ef i egwyddorion cyffredin bywyd; a byddai bob amser yn ymdrechgar i ddysgu ei gymydogion yn y pethau hanfodol i'w dedwyddwch fel aelodau cymdeithas. Byddai rhai o honynt, mae yn wir, bron a digio wrtho, am y byddai yn arfer dyweyd wrthynt fod y rhan fwyaf o dlodi cymydogaeth yn rhywbeth oedd yn cael ei dynu gan y trigolion am eu penau eu hunain. Dywedai wrthynt nad oedd tlodi wedi ei rwymo wrth neb fel corph y farwolaeth, fel na ellid gweled rhyw gyfleusdra i daflu y baich gorthrymus i lawr, a hyny yn gyfreithlon. Priodolai y rhan fwyaf o dlodi gwlad i'r arferiad niweidiol o brynu ar goel; a cheisiodd, pan yn masnachu, ac wedi hyny, ddysgu ei gyd-ardalwyr fod "dal llygoden a'i bwyta," er mor helbulus ydyw hyny, yn llawer hapusach i deimlad pob dyn gonest na "bwyta yr ysgyfarnog cyn ei dal." Yr oedd yn credu fod yn bosibl i deulu ranu ei enillion fel ag i gael angenrheidiau bywyd, ond iddo beidio gwario arian am yr hyn nid yw fara; ac yr oedd ganddo reswm da dros ei farn, sef, bod rhai tlodion yn gallu byw heb redeg i ddyled. Ac am ei fod yn credu felly, byddai yn llefaru wrth ei gymydogion, ac yn dangos y manteision a ddeuai o fabwysiadu "Hwda i ti, a moes i minau." Llawer gwaith y dywedodd na byddai yr un gath byth yn myned at gath arall i ofyn benthyg llygoden i aros iddi hi gael amser i ddal un. Gallem feddwl nad yw y traethodau byrion, ond cynhwysfawr, a ymddangosodd yn Y Traethodydd er's dros ugain mlynedd yn ol, ac a welir yn mysg ei ysgrifeniadau yn y gyfrol hon, ar "Dlodi," "Hwda i ti, a moes i minau," &c., yn ddim ond casgliad o'r mân-wersi a roddwyd ganddo yn y Dyffryn a'i hamgylchoedd ; a chynghorem y darllenydd i droi atynt a'u bwyta bob brawddeg o honynt; a gallwn sicrhau, os na fyddant yn