Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

Ein hanes ni yw crwydro a myned ar gyfrgoll. Felly y dywed Dafydd am dano ei hunan, "Cyfeiliornais fel dafad wedi colli;" ac un ddiamcan iawn ydyw y ddafad at ddyfod yn ol. Rhaid i'r bugail fyned ar ei hol, onide nid oes fawr o obaith am dani. Felly yn union yr wyt tithau, fy nghydddyn, mi fedrwn yn rhwydd iawn fyned o'r ffordd, ac ar grwydr; ond y mae y Bugail yma yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo Efe hi; ac wedi ei chael, y mae yn ei dodi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen—yn llawenychu ei hun, ac yn galw eraill i gyd—lawenhau ag ef. "Nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn." Diolch iddo—rhown ein hunain iddo, a siaradwch wrth eich gilydd am y Bugail da.

Y mae ganddo ei gorlan hefyd, chwi gofiwch. Y mae yn dysgwyl i'w ddefaid gydgyfarfod i son am dano—i gynal ei enw yn y byd—ac y mae ganddo le da iddynt yn y diwedd. Cânt fyned i'r nefoedd ato i fyw. Nid rhyw chwith iawn fydd y marw yma i'r rhai hyn, na'r byd tragwyddol wedi hyny. Dywedir yn llyfr y Dadguddiad, "Eu bod ger bron gorseddfaingc Duw," a bod yr Oen yn eu bugeilio hwynt, &c. "Pwy ydyw y rhai hyn?" meddai un o'r henuriaid, "ac o ba le y daethant?" "Arglwydd, ti a wyddost," meddai Ioan. Yr oeddynt yn leicio holi eu gilydd yn eu cylch hwynt. Erbyn edrych, rhai wedi dyfod o'r cystudd mawr oeddynt, rhai fel ninau yn union, heb ragoriaeth yn y byd arnynt, ond eu bod wedi golchi eu gynau a'u cânu yn ngwaed yr Oen, ac oblegyd hyny y maent ger bron yr orseddfaingc.

Y mae ganddo hefyd ei borfa fras—lle iddynt orwedd mewn porfeydd gwelltog, gerllaw y dyfroedd tawel. Welsoch chwi erioed mor dda y mae y rhai hyn yn ffitio eu gilydd. Ni fedr y defaid fyw heb y borfa, na fedrant; ac fe fydd y borfa yn well o'r defaid. Mi welais i gae yn Lleyn, a darn o hono yn wyrddlas iawn, yn wahanol iawn i'r darn arall, ac mi ofynais i i'r gŵr oedd pïa'r tyddyn, "Sut y mae y darn yna gymaint yn well na'r darn acw?" "Oh," meddai y ffermwr, "cadw y defaid ddarfu i mi ar y darn gwyrddlas yna, ac nid oes dim tebyg iddyn' nhw am rywiogi tir." Felly yn union y mae gyda ninau. Ni fedri di a minau ddim byw heb yr Arglwydd Iesu Grist; trwy gredu ynddo, a'i garu, a byw iddo, dyna'r ffordd i ni i gael bywyd. Y mae yn ddigon gwir fod arnom ni i gyd ei eisieu ef; ond a wyddoch chwi beth? y mae arno yntau ein heisieu ninau. Y mae ganddo ef faddeuant pechodau, yr ydym ninau yn euog. Wel, ni thâl maddeuant pechodau i neb arall ond i'r euog. Ei gyfiawnder mawr, beth feddyliet ti am dano yn wisg i dy guddio? Felly y dywed un am dano, "Gwisgodd fi â mantell cyfiawnder." Wel, rhaid cael y pechadur i'w wisgo. Ar gyfer y pechadur y mae ei gyfiawnder. Fe aiff y drefn fawr yn ofer, os na cheir pechaduriaid ato. Y mae yn derbyn pechaduriaid mawr, fel y dywedir am y Manasseh hwnw, "Efe a weddiodd, ac yntau a fu boddlawn iddo." Cymododd Duw ag ef, ac wedi i'r cymod gael ei wneyd, welsoch chwi erioed fel y mae nhw yn dygymod â'u gilydd, fel y defaid a'r borfa—y naill yn canmol y llall. Felly y mae yr Arglwydd yn addaw iddynt trwy y prophwyd Eseciel, "Mewn porfa dda y porthaf hwynt," &c. Ac y mae Dafydd yn dysgwyl mewn hyder am dani, ac yn